Diswyddiadau S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod S4C yn sefydlu cynllun diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ei staff.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dechreuad yn unig yw hwn. Mae toriadau enfawr y Llywodraeth yn rhoi dyfodol S4C fel sianel annibynnol yn y fantol. Os nad yw pethau yn newid yn fuan, ni fydd digon o staff ar ôl gyda'r sianel i gynnal gwasanaeth annibynnol, ac fe fydd y BBC yn cymryd drosodd yn gyfangwbl. Byddwn ni nol yn yr un sefyllfa ag oedd yn bodoli cyn sefydlu'r sianel pan oedd cystadleuaeth am adnoddau rhwng rhaglenni Cymraeg a Saesneg. Yn y diwedd, bydd ein holl gymdeithas yn dioddef, wrth i'r Gymraeg, etifeddiaeth unigryw holl drigolion Cymru, ddiflannu o'n bywydau."Mae mwyafrif ASau Cymru, arweinydd y pedair brif blaid yng Nghymru, pob undeb a mudiad iaith,y degau o filoedd o bobl sydd wedi mynychu ein cyfarfodydd a raliau yn gwrthwynebu'r cynlluniau hyn. Maen nhw i gyd yn dweud 'Na i Doriadau, Ie i S4C newydd'. Ond, mae'r llywodraeth a'r BBC yn gwrthod gwrando. Dyw pobl Cymru ddim yn dwp: rydyn ni'n gwybod nad oes angen torri 94% o grant y Llywodraeth i'r sianel oherwydd y diffyg - mae'n doriad cwbl annheg."