Mae dros 100 o ymgyrchwyr iaith ac aelodau undebau wedi mynd â'u neges i Lundain heddiw, gan gynnal lobi yn San Steffan, mewn ymdrech i atal y toriadau a newidiadau i S4C.Mae arweinydd y pedair prif blaid yng Nghymru wedi galw ar y Llywodraeth i atal eu cynlluniau ar gyfer S4C er mwyn cynnal arolwg llawn o'r sianel. Mae Llywodraeth Prydain yn ceisio newid y gyfraith er mwyn torri ei grant i S4C o 94%, ac ariannu'r sianel yn y dyfodol trwy'r BBC yn bennaf. Mae 24 mudiad gwahanol gan gynnwys y NUJ, BECTU, Undeb y Cerddorion, Equity ac Undeb yr Ysgrifenwyr wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn galw arni i atal y cynlluniau hefyd.Fe fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb yn gwrthwynebu'r toriadau, wedi ei harwyddo gan dros 12,000 o bobl, i Swyddfa Cymru. Dywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n amser i'r gwleidyddion wrando ar lais Cymru. Mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gwrando ar arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru a nifer o fudiadau gwirfoddol sydd yn poeni am yr iaith. Nid oes angen i'r llywodraeth arbed 94% o'r arian oedden nhw arfer talu i'r sianel, mae'n doriad gwbl annheg. Mae'n well ganddyn nhw fargen a wnaed mewn pedair awr ar hugain rhyngddynt a'r BBC, yn hytrach na gwrando llais pobl Cymru. Mae'n gywilyddus."Dywed David Donovan, ar ran cynghrair o undebau, y FEU (Ffederasiwn yr Undebau Adloniant):"Mae dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg yn y fantol, sydd yn fygythiad uniongyrchol i'r iaith a'n diwylliant. Mae S4C yn wynebu toriadau enfawr a chael ei thraflyncu gan y BBC. Ar ôl 2015, does dim sicrwydd y bydd unrhyw arian yn mynd i'r sianel o gwbl."Ychwanegodd Ken Smith Cadeirydd NUJ Cymru:"Fe fydd y toriadau arfaethedig i gyllidebau S4C a BBC Cymru, ynghyd a'r cynllun i ariannu S4C trwy'r ffi drwydded, yn arwain at golli swyddi a chwymp yn ansawdd y rhaglenni, mae'r NUJ yn gwrthwynebu hyn yn gryf."Still major questions over S4C's future - Daily Post - Mawrth 31, 2011S4C campaign at Westminster - South Wales Echo - Mawrth 31, 2011S4C: Protest yn San Steffan - Golwg360 - Mawrth 30, 2011S4C: Protestio yn Llundain - BBC Cymru - Mawrth 30, 2011Unions take fight for S4C's future to London - Western Mail - Mawrth 30, 2011Writers' Guild to hold public meeting over inclusion of S4C - journalism.co.uk - Mawrth 29, 2011
Amserlen:11:30am - Aelodau yn ymgynnull ar College Green12:30pm - Cyfarfod yn Ystafell Pwyllgor 18, Ty'r CyffredinSiaradwyr: David Donovan (BECTU), Roger Williams (Undeb yr Ysgrifenwyr), Bethan Williams (Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Menna Machreth (Cymdeithas), Owen Smith AS (Llafur), Hywel Williams AS (Plaid Cymru), Roger Williams AS (Dem. Rhydd)3pm - Cyflwyno Deiseb, yn Swyddfa Cymru, Whitehall, Llundain