Grwp ymbarél yn croesawu gwrthwynebiad trawsbleidiol

na-i-doriadau-s4c-llundain.jpgAdroddiad S4C: ASau Cymru yn erbyn cynllun y LlywodraethMae nifer o undebau a mudiadau iaith wedi croesawu'r newyddion bod y mwyafrif o ASau o Gymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i gwtogi ar gyllideb S4C, wrth i adroddiad beirniadol trawsbleidiol gael ei gyhoeddi.Pleidleisiau gan ASau o Loegr yn unig wnaeth atal cynnwys geiriad ffurfiol yn adroddiad y pwyllgor i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus (tud. 46) a fyddai'n galluogi'r Llywodraeth torri ei grant i'r sianel o naw deg pedwar y cant. Cefnogwyd yr ymdrech i atal y cynlluniau gan gynrychiolwyr y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pwyllgor.Fe ddywedodd David Donovan, llefarydd ar ran cynghrair o undebau, y FEU (Ffederasiwn yr Undebau Adloniant):"Yn amlwg, mae mwyafrif o ASau Cymru eisiau atal cynlluniau presennol y Llywodraeth trwy dynnu'r sianel allan o'r ddeddfwriaeth, ac mae hynny i'w groesawu. Y ffaith bod y Llywodraeth wedi dibynnu ar bleidleisiau ASau o Loegr ar y pwyllgor yn dweud y cyfan. Rydyn ni'n croesawu'n fawr iawn gwrthwynebiad y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ymgais y Llywodraeth i newid y gyfraith. Mae yna obaith i ni ennill ein brwydr o blaid dyfodol sicr i'n hunig sianel teledu Cymraeg gyda eu cefnogaeth." Mae'r adroddiad yn derbyn bod angen "a new S4C: a multi-platform, multi-media broadcaster/publisher" (para. 64, tud. 18) ac yn cydnabod i'r fargen rhwng y BBC a'r Llywodraeth gael ei gwneud 'in haste' a 'without sufficient consultation' (para. 131, tud.33). Mae yna hefyd gydnabyddiaeth o'r ansicrwydd ariannol wedi 2015, gyda'r pwyllgor yn dadlau ei bod yn 'essential that there is a long term funding formula enacted in primary legislation." (para. 100, tud. 26).Ychwanegodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Er fod y llywodraeth wedi anwybyddu galwadau o Gymru hyd yn hyn mae'n debyg y bydd rhaid i'r Llywodraeth ail-ystyried eu cynllun annoeth yn sgil yr adroddiad beirniadol hwn. Rydyn ni'n falch bod barn unedig Cymru sydd yn gwrthwynebu'r toriadau enfawr wedi ei adlewyrchu gan y mwyafrif o ASau o Gymru. Nid yw ein synnu bod y gwrthwynebiad mor gryf, gan fod y fargen rhwng y llywodraeth a'r BBC yn golygu torri grant S4C o 94% - toriad sydd yn hollol annheg. Yn sicr, rydyn ni'n cytuno gyda'r angen am S4C newydd yn yr oes aml-blatfform newydd ac yr angen am fformiwla ariannu hir dymor mewn deddf gwlad."Dywedodd Meic Birtwistle o ran yr NUJ:"Fe fydd yr adroddiad hwn yn rhoi pwysau mawr ar y Llywodraeth i edrych o'r newydd ar ei chynlluniau. Dim ond gyda ffordd newydd ymlaen, sydd yn adeiladu consensws ar draws Cymru gyfan, gallwn ni sicrhau'r rhaglenni safonol sydd angen i sicrhau llwyddiant y sianel."Aelodaeth y grwp ymbarel yn erbyn y toriadau i S4C yw BECTU, NUJ, Undeb yr Ysgrifenwyr, Equity, Undeb y Cerddorion, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg