Fe ohiriwyd achos llys dau ymgyrchydd iaith heddiw ar ôl i'r heddlu cyflwyno eu holl bapurau yn uniaith Saesneg.Gweithredodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful a Heledd Melangell Williams o Nant Peris fel rhan o'r ymgyrch i achub S4C. Honnir i'r ddau dorri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad.Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod y weithred ddi-drais yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri ei grant i S4C o 94% ac uno'r sianel a'r BBC.Pennwyd Mis Ebrill 26ain ar gyfer achos cyn-brawf y ddau ddiffynnydd yn Llys Ynadon Caerdydd er mwyn i'r heddlu darparu papurau Cymraeg.Dywed Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid ar chwarae bach mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gweithredu mor ddifrifol. Mae llywodraeth Prydain wedi diystyru pobl Cymru o'r dechrau yn ystod y broses hon. Fe wnaethon nhw benderfyniad munud olaf ar ddyfodol S4C, heb ymgynghori o gwbl gydag S4C na gweinidogion yng Nghymru; ac yn ddiweddar mae Jeremy Hunt wedi anwybyddu galwadau gan arweinwyr yr holl bleidiau yng Nghymru am arolwg llawn o S4C cyn gwneud penderfyniad."Ychwanegodd Jamie Bevan, un o'r diffynyddion o Ferthyr Tudful:"Yn groes i beth mae'r BBC a Jeremy Hunt yn dweud nid oes unrhyw sicrwydd i ddyfodol ein sianel genedlaethol. Gweithredon mewn modd mor ddifrifol er mwyn tynnu sylw at ddifrifoldeb yr argyfwng sydd yn wynebu S4C."
"Llwyddwyd i newid trywydd y llywodraeth yn yr ymgyrch gwreiddiol i sefydlu'r sianel. Rhaid nawr cynyddu'r pwysau er mwyn sicrhau bod y llywodraeth bresennol yn rhoi i'r neilltu ei chynlluniau byrfyfyr a chynnal arolwg llawn i sefyllfa S4C."Edrychwn ymlaen at gael gwrandawiad llawn o flaen y llys lle fyddwn yn tynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa a'n rhesymau moesol cywir dros weithredu yn y modd a wnaethom."