Mae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15).Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus mewn ymdrech i dynnu S4C allan o'r Mesur.