S4C: Apêlio ar ASau cyn pleidlais

mark-susan-hywel.jpgMae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15).Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus mewn ymdrech i dynnu S4C allan o'r Mesur. Fe fydd pleidlais ar y gwelliant yfory yn San Steffan.Mae'r cynlluniau yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i'r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.Yn gynharach eleni, ysgrifennodd 24 o fudiadau, gan gynnwys Undeb yr Ysgrifenwyr, yr NUJ, UCAC a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, at wleidyddion yn gofyn iddynt dynnu S4C allan o'r Mesur. Fe ddywedodd David Donovan, o'r Undeb BECTU, a llefarydd ar ran y gr?p "Achub S4C":"Mae cynllun yr Ysgrifennydd Diwylliant, a wnaethpwyd mewn 48 awr, wedi ei wrthwynebu gan ddau bwyllgor T?'r Cyffredin; pedwar arweinydd y pleidiau yng Nghymru; dros 13,000 o lofnodwyr deiseb, 24 mudiad o Gymru, Archesgob Cymru Barry Morgan, yn ogystal â miloedd o bobl sydd wedi mynychu degau o ralïau a chyfarfodydd ar draws Cymru. Ond hyd at heddiw, dyw'r gwleidyddion ddim wedi gwrando.""Y rheswm dros y gwrthwynebiad yw nad ydym yn sôn am unrhyw sianel deledu ond unig sianel deledu Gymraeg y byd, sianel y bu raid brwydro drosti. Carcharwyd dwsinau o bobl, gwrthododd dros fil o bobl dalu am eu trwydded deledu, ac roedd un unigolyn yn barod i ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch i sefydlu'r sianel dros dri deg mlynedd yn ôl. Mae Channel 4 wedi ei eithrio o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus, felly pam ddim S4C?"Ychwanegodd Swyddog Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg, Ceri Owen:"Ers ei sefydlu, bu S4C yn gonglfaen i ddiwylliannau Cymru ac yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg a'r diwydiant cyfryngol. Chwaraeodd ran ganolog wrth normaleiddio'r iaith Gymraeg yng Nghymru, o sicrhau fod plant yn clywed yr iaith Gymraeg tu allan i'r ysgol, i fedru cynhyrchu rhaglenni o safon ryngwladol. Rydyn ni'n gofyn i'r ASau felly bleidleisio dros dynnu S4C allan o'r Mesur yn llwyr, byddai hynny'n caniatáu amser i gynnal adolygiad a thrafodaeth gyhoeddus ystyrlon ar ddyfodol y sianel."Mewn llythyr at Llywodraeth Prydain, galwodd Archesgob Cymru ar i'r Llywodraeth ail-ystyried ei gynlluniau:"Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud yngl?n a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel. Mae arweinwyr pob un o'r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae'n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried."Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw."