Dyfodol S4C yn y Fantol - Arestio 2 ar ol gweithred yn Llundain

gweithred-llundain2-bach.jpgMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi peintio'r slogan ACHUB S4C ar furiau adeilad y BBC yn White City Llundain i ddangos eu pryder am sefyllfa S4C. Cafodd Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o Eglwyswrw a Chris Griffiths o Blaendulais eu harestio heddiw.Yn yr hydref y llynedd, fe gytunodd y BBC i gymryd drosodd ariannu S4C fel rhan o ddel sydd yn golygu cwtogi ar gyllideb y sianel o dros bedwar deg y cant mewn termau real. Bydd grant y sianel yn derbyn toriad o 94% dros y bedair blynedd nesaf.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Rydyn ni wedi bod yn cynnal ymgyrch i sicrhau dyfodol S4C dros y misoedd diwethaf. Ymgyrch hynod boblogaidd sydd wedi ennill cefnogaeth traws-doriad eang o bobl. Nid oes neb yn cytuno gyda chyd-gynllun y BBC a'r Llywodraeth. Mae arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru yn eu gwrthwynebu; degau o Undebau a mudiadau iaith; y Pwyllgor Materion Cymreig; degau o filoedd o bobol sydd wedi arwyddo deisebau, mynychu ralïau a chyfarfodydd; ac ein harweinwyr crefyddol megis yr Archesgob Barry Morgan. Mae hyd yn oed Pwyllgor Diwylliant T?'r Cyffredin wedi beirniadu'r cynlluniau yn hallt."Mae Llywodraeth Prydain yn ceisio gwneud newidiadau cyfreithiol, trwy'r Mesur Cyrff Cyhoeddus, a fyddai'n dileu'r fformiwla ariannol statudol presennol ac felly golygu dim sicrwydd o unrhyw gyllid i S4C wedi 2015; ac galluogi'r Llywodraeth uno S4C a'r BBC.

Ychwanegodd Bethan Williams:"Rydyn ni wedi galw dro ar ol tro ar y llywodraeth a'r BBC i roi'r gorau i'w trafodaethau am y sianel er mwyn gallu cynnal arolwg llawn o'r sianel ar sail hynny, Yn lle rhuthro cynlluniau munud olaf heb ymgynghoriad llawn gyda phobl yng Nghymru. Dydyn nhw ddim wedi bod yn gwrando felly dyma ddod a'n neges atyn nhw yn hollol glir a di-amwys fod pobl Cymru yn poeni am ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg."Ychwanegodd Bethan Williams:"Nid ar chwarae bach yr ydym yn gweithredu yn y fath fodd difrifol, mae'n dangos ein bod ni o ddifrif am achub ein sianel ac nad ydym am ildio i eiriau gwag y sefydliadau mawr yma."Arestio dau mewn protest - BBC Cymru - 08/08/2011Paentio neges ar BBC Llundain - Golwg360 - 08/08/2011