3 plaid yn ceisio achub S4C

mark-susan-hywel.jpgMae gwleidyddion o dair plaid wedi lansio menter drawsbleidiol i achub S4C yn Nhy'r Cyffredin heddiw (Dydd Llun, 5 Medi). Mae tri Aelod Seneddol o bleidiau gwahanol - y Rhyddfrydwr Mark Williams AS, Aelod Llafur Susan Elan Jones ac Aelod Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams - wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n atal y BBC rhag cymryd yr unig sianel deledu Gymraeg drosodd.Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi cynlluniau i gwtogi ar eu grant i S4C o naw deg pedwar y cant, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trefnu digwyddiad tu allan i bencadlys S4C ar Fedi 21 a rali yn Wrecsam ar Hydref 8fed i dynnu sylw at y bygythiad i'r sianel. Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd digidol y mudiad:"Rydym yn falch iawn bod aelodau o dair plaid yn San Steffan wedi cytuno i gynrychioli'r degau o filoedd o bobl sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cynlluniau annoeth y Llywodraeth - cynlluniau a fyddai'n rhoi dyfodol S4C, ein hunig sianel deledu Gymraeg, yn y fantol. Dros y mis nesaf, fe fyddwn ni, ynghyd â mudiadau eraill, yn pwyso ar wleidyddion i gyflawni'r hyn mae pobl Cymru eisiau, sef tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Mae'r Llywodraeth wedi dewis anwybyddu argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig i newid eu cynlluniau gogyfer S4C, felly rydym ddisgwyl cefnogaeth i'r gwelliant gan yr ASau Ceidwadol Alun Cairns, Guto Bebb a David Davies hefyd."Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog aelodau a chefnogwyr i gefnogi'r ymdrech trawsbleidiol i hepgor S4C o'r Mesur, trwy e-bostio'r Aelodau Seneddol a fydd yn ystyried y cynlluniau. Manylion llawn yma cymdeithas.org/lobiBydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Rali Flynyddol - 'Herio'r Toriadau: Hawlio Cyfiawnder i Ddarlledu Cymraeg', tu allan i ganolfan y BBC yn Wrecsam ar Ddydd Sadwrn 8fed Hydref am 2.30