S4C: ymgyrchu'n dechrau dwyn ffrwyth - Cymdeithas

s4c-toriadau.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i'r degau ar filoedd o bobl sydd wedi gorfodi i Lywodraeth San Steffan gynnig cyfaddawd ar ddyfodol S4C heddiw (Dydd Mawrth Gorffennaf 12).Fe fydd Gweinidog Llywodraeth San Steffan yn datgan mewn dadl ar ail ddarlleniad y Mesur Cyrff Cyhoeddus heddiw y bydd yn cyflwyno gwelliant ynghylch ariannu'r sianel.Fe ddywedodd y Gymdeithas y byddant yn parhau â'u hymgyrch, gan annog unigolion i beidio talu eu trwyddedau teledu hyd y nes bod S4C yn annibynnol, gyda chyllid digonol a fformiwla ariannu hir dymor ar sail chwyddiant wedi ei ddiogelu mewn deddf gwlad. Mae'r mudiad iaith hefyd yn pwyso am S4C newydd, sef platfform aml-gyfryngol sy'n atebol i bobl Cymru, gyda grymoedd dros ddarlledu wedi eu datganoli i Gymru, a sicrhad bod y sianel yn mynd i fod yn uniaith Gymraeg.Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym wedi dweud ers dechrau'r ymgyrch y byddem yn gwrthwynebu'r toriadau i'n hunig sianel deledu Cymraeg wrth alw am S4C newydd. Rydym yn falch bod pwysau'r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sydd yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae'r holl fudiadau sydd wedi cefnogi'r ymgyrch ac wedi adeiladu consensws dros y Gymraeg yn haeddu clod am orfodi'r ail-ystyriaeth gan y Llywodraeth. Dylai hyn fod yn ysgogiad i ni wrth i ni barhau â'n hymgyrch i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r sianel.""Rhaid aros yn awr i weld pa fath o welliant newydd i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus a gyflwynir gan Lywodraeth Prydain. Fodd bynnag, mae'n debyg nad oes bwriad gan y llywodraeth i atal, neu leihau'r toriad o naw deg pedwar y cant eu bod yn cynllunio yn ei grant i'r sianel. Mae hyd yn oed y Pwyllgor Materion Cymreig, gyda mwyafrif Ceidwadol, wedi cydnabod bod y toriad yn ormodol. Gofynnodd y pwyllgor am fformiwla ariannu hir dymor mewn deddf gwlad hefyd, ni fyddai geiriad amwys yn cyflawni'r fformiwla sydd angen er mwyn cael sicrhad yn y dyfodol."

"Yn sicr ni fyddwn yn terfynu ein hymgyrch o weithredu'n uniongyrchol a gwrthod talu'r dreth deledu. I'r gwrthwyneb - rhaid cadw'r pwysau ar y llywodraeth er mwyn sicrhau cyllid digonol mewn statud ac annibyniaeth olygyddol a gweithredol ar gyfer ein sianel Gymraeg. Mae cyfrifoldeb ar ein gwleidyddion yn awr i weithredu ar frys i sicrhau y pethau angenrheidiol hyn ar gyfer y sianel."Mae S4C wedi derbyn toriadau sy'n annheg o gymharu â'r toriadau i ddarparwyr darlledu cyhoeddus eraill, er bod sefyllfa'r Gymraeg yn fregus. Yn ogystal, mae trafodaethau rhwng y BBC ac S4C yn dal i fynd rhagddynt yn unol â dymuniadau llywodraeth Prydain. Mae degau o filoedd o bobl wedi gwrthwynebu'r cynlluniau hyn gan gynnwys Archesgob Cymru, arweinwyr y pleidiau yng Nghymru, a degau o fudiadau."