S4C: neges i arweinwyr pleidiau Cymru

proclamasiwn.jpgFe fydd ymgyrchwyr yn mynd i swyddfeydd arweinwyr y pedair prif plaid gwleidyddol yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 19) er mwyn cyflwyno neges frys am ddyfodol S4C.Ym mis Tachwedd y llynedd, ysgrifennodd y pedair arweinydd at y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r cynlluniau presennol. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac undebau eraill yn mynd i Langefni, Aberhonddu a Chaerdydd gyda phroclamasiwn yn galw ar i'r pleidiau yng Nghymru fynnu bod adolygiad llawn o'r sianel yn lle cynllun presennol y Llywodraeth.Mae Llywodraeth Prydain yn ceisio newid y gyfraith er mwyn torri ei grant i S4C o naw deg pedwar y cant, ac ariannu'r sianel yn y dyfodol trwy'r BBC yn bennaf. Mae 24 mudiad gwahanol gan gynnwys y NUJ, BECTU, Undeb y Cerddorion, Equity ac Undeb yr Ysgrifenwyr wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn galw arni i atal y cynlluniau hefyd. Dywed y proclemasiwn:"Galwn arnoch fel arweinydd eich Plaid yng Nghymru i fynnu gan y Prif Weinidog David Cameron fod adolygiad annibynnol a chynhwysfawr yn cael ei gynnal i ddyfodol S4C yr unig Sianel Deledu Gymraeg yn y Byd."Galwn hefyd ar i'r holl wleidyddion sy'n cynrychioli Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ac yn Senedd Prydain Fawr yn Llundain i ddatgan eu cefnogaeth lwyr i'r adolygiad ac i ddarlledu drwy gyfrwng y Gymraeg...."Ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau yngl?n a darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru nes i'r adolygiad trylwyr hwn gael ei gynnal. Am hynny ni ddylai S4C fod yn rhan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy'n cael ei drafod yn Nh?'r Arglwyddi ar hyn o bryd."Bu i chi ymrwymo i hyn yn ôl ym Mis Tachwedd 2010. Daeth yn amser bellach i chi wneud safiad pendant dros ddyfodol S4C a darlledu Cymraeg."Bydd David Donovan o'r undeb BECTU, Dr Seimon Brooks a Danny Grehan o'r Gymdeithas yn cyflwyno'r proclamasiwn i Owen Smith AS ar ran Carwyn Jones ym mhencadlys Llafur Cymru yng Nghaerdydd.Bydd Mair Rowlands (UMCB), Dylan Morgan ac Osian Jones o'r Gymdeithas yn cyflwyno'r proclamasiwn i swyddfa Ieuan Wyn Jones yn Llangefni.Fe fydd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno'r proclamasiwn i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams ei hun ac i swyddfa Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yn Aberhonddu.Meddai Ms Williams:"Mae gwrthwynebiad cynyddol i'r toriadau enfawr i'n hunig sianel teledu Cymraeg a'i huno a'r BBC ac mae hwn yn bwnc y mae pobl Cymru yn gwbl unedig arno. Mae rhaid i'r pleidiau sydd mewn llywodraeth yn Llundain wyrdroi eu penderfyniad i'n hanwybyddu ni yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i'r pleidiau i gyd fynnu bod yr adolygiad llawn y galwon nhw amdano yn digwydd yn lle cynlluniau annoeth Llywodraeth Prydain."S4C: Neges i arweinwyr pleidiau - BBC Cymru - 19/04/2011Pwyso ar y pleidiau i amddiffyn S4C - 18/04/2011 - Golwg360Anger after minister interviews candidates for the top job at S4C - Western Mail - 19/04/2011