Cynhelir rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd), yn erbyn toriadau arfaethedig S4C, a'r toriadau yn gyffredinol, fydd yn ôl y Gymdeithas yn niweidiol iawn i ddyfodol cymunedau Cymraeg.Fe fydd siaradwyr megis AS Arfon Hywel Williams, Silyn Roberts o'r Undeb Unsain, David Donovan o'r undeb BECTU, Hywel Roberts undeb y PCS, Dafydd Iwan, y canwr Ceri Cunnington a'r Cyng. Marc Jones o'r gr?p gogledd Cymru yn erbyn y Toriadau. Fe fydd Llywydd Plaid Cymru Jill Evans hefyd yn bresennol ar ôl datgan y byddai hi'n gwrthod talu ei thrwydded teledu oherwydd y bygythiad i ddyfodol S4C.Gobaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw ffurfio cynghrair yn erbyn y toriadau mewn sawl cymuned ar draws Cymru. Fe ddywedodd Robin Crag, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae hi'n hynod o bwysig ein bod ni fel Cymdeithas yn gwrthwynebu'r toriadau hyn, toriadau gan Lywodraeth yn Llundain sy'n poeni nac yn deall dim am Gymru. Mae'r Llywodraeth wedi trin Cymru mewn ffordd hollol haerllug parthed S4C, ac mi fydd y toriadau ehangach hefyd yn taflu dyfodol ein cymunedau i'r fantol, mi fyddwn ni felly yn annog pawb yn y rali dydd Sadwrn i ddweud na i gelwyddau Cameron a'i gwn bach Rhyddfrydol, sydd ddim ond pypedau ym mhocedi'r Banciau a'r meddylfryd neo-rhyddfrydol sydd wedi gwneud cyn gymaint o lanast o bethau yn ystod y deg mlynedd diwethaf.""Byddwn yn galw ar bob cymuned yn y wlad, wedi'r rali dydd Sadwrn, i gychwyn grwpiau cymunedol yn erbyn y toriadau, i ymladd ar lawr gwlad o blaid dyfodol gwell i'r iaith Gymraeg ac i bawb yn ein cymunedau"
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn dod mas i wrthwynebu'r toriadau mae'r Llywodraeth yn eu gorfodi arnom. Byddwn ni hefyd yn troi allan er mwyn cefnogi safiad dewr y rhai fydd yn wynebu dirwyon ac achosion llys am sefyll yn erbyn yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yn y Mess-hir Iaith Gymraeg, na fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Yn wyneb y toriadau a fydd yn effeithio ar wasanaethau Cymraeg mae angen ar bobl i gael Mesur a fydd yn sicrhau y gallan nhw fyw eu bywyd bob dydd drwy'r Gymraeg yn fwy nag erioed.""Felly gobeithio y byddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd yn ein rhanbarthau ac yn genedlaethol er mwyn gwrthwynebu'r toriadau er mwyn herio'r Llywodraeth sy'n ein diystyru."Dywedodd Hywel Williams AS, a fu'n siarad yn y brotest:"Mae'r llywodraeth wedi rhuthro i dorri cyllid S4C heb roi unrhyw ystyriaeth i'r effaith ar wylwyr a'r bobl sy'n cael eu cyflogi gan y diwydiant teledu. Nid rhaglenni'n unig sydd mewn perygl - mae cannoedd o swyddi lleol yn y fantol. Rydyn ni yma i brotestio am y toriadau i S4C ond hefyd am y toriadau i wasanaethau cyhoeddus eraill. Bydd yr ergyd i Ogledd Cymru hyd yn oed yn fwy gan fod cymaint o bobl yn gweithio i gynghorau lleol, y gwasanaeth iechyd a'r llywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain. Mae'n hynod bwysig ein bod yn dod at ein gilydd i wrthsefyll y llywodraeth Doriaidd Ryddfrydol adain dde sydd mewn grym ar hyn o bryd. Mae'n gwbl amlwg nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad am fywydau pobl go iawn."
- Ble? Y Maes Caernarfon
- Pryd? 11am, Dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd
- Pwy? Hywel Williams AS, Gwyneth Thomos (Y Blaid Lafur) Hywel Roberts (PCS) Silyn Roberts (Unsain) David Donovan (BECTU) Marc Jones (Gogledd Cymru yn erbyn y toriadau)Dafydd Iwan (Plaid Cymru) Mair Tomos (UMCB) Bethan Russell (Mantell Gwynedd) Sel Williams (Undeb y Darlithwyr) Erica Jones (Pobol Peblig) Ceri Cunnington (Antur Stiniog) Anwen Davies (Ymgyrch Ward Alaw)
400 yn protestio yn erbyn toriadau - BBC Cymru - 04/12/10Cannoedd yn protestio yn y glaw - Golwg360 - 04/12/10