Heb yn wybod i lawer o'n cyd-Gymry mae'r llywodraeth yn Llundain eisiau gwthio drwodd ddeddfwriaeth newydd a fydd yn rhoi'r grym i weinidogion gwtogi'n eithafol ar gyllid S4C, a hyd yn oed ei diddymu'n llwyr.Mae'r llywodraeth yn ceisio gwthio'r Mesur trwy Senedd San Steffan ar frys, felly mae'n hollbwysig ein bod ni'n dangos ein gwrthwynebiad i'r cynlluniau hyn nawr.Mewn ymateb i sefyllfa argyfyngus S4C a'r cynlluniau cwbl annemocrataidd, galwn ar bobl Cymru i ymrwymo i atal talu'r drwydded deledu o'r 1af o fis Rhagfyr ymlaen oni chymerir camau cyn hynny i sicrhau fod annibyniaeth S4C, yn cael ei sicrhau. Galwn am ei rhyddhau o gydreolaeth y BBC ac hefyd am glustnodi cyllid digonol i sicrhau ei dyfodol.Yn y 70au gwrthododd miloedd o Gymry dalu eu trwydded Teledu, gorfodwyd y llywodraeth i sefydlu sianel Gymraeg. Nawr mae'n rhaid brwydro eto.Gwrthod Talu'r Drwydded:Rydym yn gofyn i bobl wrthod talu'r drwydded er mwyn sicrhau annibyniaeth y sianel Gymraeg. Rhaid sicrhau:
- annibyniaeth olygyddol a rheolaethol y sianel
- fformiwla gyllido ar sail chwyddiant
Dyma beth sy'n mynd i sicrhau fod digon o arian ar gael i greu darpariaeth Gymraeg yn y lle cyntaf.Gan fod Cameron a Hunt wedi anwybyddu'r prif bleidiau yng Nghymru, mae'n rhaid protestio er mwyn dangos pa mor annemocrataidd yw'r penderfyniadau hyn. Os ydym ni wir o ddifrif, mae'n rhaid i'n gweithredoedd ni fod o ddifrif hefyd. Os oes digon o bobl yn gwrthod talu'r drwydded, bydd hyn yn danfon neges gref iawn at y gwleidyddion. Dyma'r dulliau wnaeth fagu'r consensws i sefydlu sianel yn y lle cyntaf - gwrthododd 2,000 o bobl dalu eu trwydded deledu. Gadewch i'n ymateb ni fod yn deilwng ohonom fel cenedl.I gymryd rhan yn yr ymgyrch:
- Debyd Uniongyrchol: Os ydych chi'n talu trwy Ddebyd uniongyrchol, bydd angen i chi ei ganslo trwy gysylltu gyda'ch banc (bancio arlein, neu bancio dros y ffon, neu yn y gangen).
- Eisoes wedi talu?: Hyd yn oed os ydych eisoes wedi talu am y flwyddyn, mae modd cysylltu a Trwyddedu Teledu nawr i ganslo eich trwydded. Byddwch wedyn yn derbyn ad-daliad am y cyfnod sydd yn weddill.
- Dros 75?: Os ydych chi dros 75, rydych chi'n gymwys i gael trwydded am ddim ond mae angen wneud cais am un. Felly mae modd i chi gymryd rhan trwy beidio gwneud cais am drwydded. Hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi derbyn trwydded am ddim mae dal modd i chi gymryd rhan yn yr ymgyrch trwy gysylltu a Trwyddedu Teledu a chanslo eich trwydded.'
- Ym mhob achos: I gymryd rhan bydd angen i chi anfon e-bost at post@cymdeithas.org / 01970 624501 yn datgan eich parodrwydd i gefnogi'r achos ac i beidio â thalu am eich trwydded teledu oni bai fod Llywodraeth Prydain yn sicrhau annibyniaeth, cyllido teg a dyfodol cadarn i S4C. Nodwch hefyd os ydych chi'n fodlon neu'n anfodlon i'r Gymdeithas gynnwys eich enw ar restr cyhoeddus. Bydd hefyd angen i chi gysylltu gyda Trwyddedu Teledu i esbonio pam eich bod yn gwrthod talu'r drwydded, ac i ddatgan eich bod yn sylweddol eich bod yn torri'r gyfraith.
Beth yw canlyniadau peidio talu'r drwydded?Mae'n debygol y byddwch yn derbyn llythyrau atgoffa gan yr asiantaeth 'Trwyddedu Teledu' am rhai misoedd. Yna mae'n bosib y byddwch yn derbyn llythyron yn bygwth ymweliad gan un o swyddogion ymholiadau'r asiantaeth. Nid oes rhaid i chi adael y Swyddog Ymholiadau i mewn os yw'n ymweld â'ch eiddo, ond os nad ydych chi'n rhoi mynediad i'r Swyddog fe all wneud cais i'r llys ynadon am warant chwilio. Os ydych chi yn ei adael i mewn fe fydd yn archwilio'r eiddo. Os yw'r Swyddog yn cadarnhau y dylech chi gael trwydded teledu fe fydd yn cymryd datganiad dan rybudd.Ar ôl tipyn o amser (fel arfer dros flwyddyn), mae'n bosib y bydd Trwyddedu Teledu yn dewis eich erlyn chi, a bydd yr achos yn cael ei glywed gan lys ynadon. Os ceir chi yn euog y ddirwy fwyaf gallwch dderbyn yw £1000. Ni all y llys gymryd eich teledu na gorchymyn i chi dalu'r ffioedd sy'n ddyledus.Mae fel arfer yn broses hir iawn. Dyma ddigwyddodd i un aelod a wrthododd talu ei drwydded deledu am reswm gwahanol o ran gwybodaeth, ond mae'n amhosib darogan pa gamau yn union y bydd yr asiantaeth Trwyddedu Teledu yn eu cymryd:"Fe wnaeth bara am flynyddoedd lawer, gyda llythyrau bob deufis yn cyrraedd, a beili yn ymweld â'r t? unwaith bob 6 mis, a chafwyd achos llys ar ôl 3 mlynedd."