Newid y gyfraith ar S4C - buddsoddiad werth ymgyrchu drosto

Llundain Hunt.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y gyfraith er mwyn cwtogi ar gyllideb S4C.Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali "Na i doriadau, Ie i S4C newydd" ar Ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd am 11yb, Parc Cathays, Caerdydd.Fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae ein rhaglenni Cymraeg a'n gwasanaeth darlledu cyhoeddus yn y fantol. Bu ymgyrchwyr yn brwydro'n galed am reswm, sef i wneud yn si?r fod cyllideb y sianel yn ddiogel mewn deddf. Nawr mae'r arian yn cael ei reoli gan bobl sydd ddim yn deall mor werthfawr yw cael rhaglenni Cymraeg i ni.""Maen nhw hefyd yn dilyn llwybr peryglus a fyddai'n tanseilio annibyniaeth y sianel, gan roi cymaint o rym dros sianel teledu mewn dwylo un gweinidog. Galwn ar bobl Cymru i wrthod y toriadau yn gyffredinol ac i ddod i gefnogi ein rhaglenni a'n sianel Gymraeg drwy ddod i Rali Fawr ar Ddydd Sadwrn, Tachwedd 6ed yng Nghaerdydd: 'Na i doriadau - Ie i S4C newydd'""Nawr mae dyfodol arian cyfryngau Cymraeg yn ddibynnol ar fympwy llywodraeth ddi-hid. Mae hyn yn arwydd cwbl glir bod angen datganoli'r cyfryngau a darlledu i Gymru."