Mae ymgyrchwyr iaith wedi bygwth dechrau ymgyrch 'gweithredu'n uniongyrchol' yn erbyn y Llywodraeth Brydeinig dros doriadau arfaethedig i S4C.Mewn llythyr agored at Jeremy Hunt, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y DU, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Machreth yn dweud y bydd y mudiad yn dilyn tactegau tebyg i'r rhai di-drais a ddefnyddiwyd yn yr ymgyrch i sefydlu'r sianel.Maen nhw hefyd yn dadlau eu bod nhw "yn gwrthod yn llwyr benderfyniad [y llywodraeth] i gwtogi'n eithafol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn sgil argyfwng economaidd a achoswyd gan y banciau a marchnadoedd ariannol , nid pobl gyffredin".Yn eu llythyr, mae'r ymgyrchwyr iaith yn datgan:"Mae'ch bwriad i wneud toriadau difrifol i gyllideb S4C yn fygythiad cwbl glir i'r iaith Gymraeg... Ni fyddem, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn derbyn toriadau i S4C, ac yn nodi fod cyllideb y sianel wedi ei sicrhau mewn statud. Ac ni fydd unrhyw Aelod Seneddol sydd yn pleidleisio dros newid yn y gyfraith er mwyn torri cyllideb S4C, sydd yn fuddsoddiad yn y Gymraeg a'n cymunedau, yn haeddu cefnogaeth cyfeillion y Gymraeg ychwaith.""Rydym yn ystyried eich bwriad yn weithred sy'n gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg, yn enwedig mewn cyfnod pan rydych yn gwneud pob ymdrech i gynyddu a diogelu elw darlledwyr eraill."
"Mae'ch cynlluniau hefyd yn fygythiad economaidd clir: bydd pobl yn colli eu swyddi mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru a bydd yn effeithio'r economi mewn ardaloedd lle mae buddsoddiad S4C yn hollbwysig. Mae diwydiannau creadigol yn cynrychioli rhwng 22,000 a 30,000 o swyddi yng Nghymru ac yn cyfrannu hyd at £500 miliwn i allbwn economaidd blynyddol Cymru, ac mae bodolaeth S4C yn rhan hollbwysig o'r sector.""O ganlyniad rydym am eich hysbysu y byddwn yn ymgyrchu yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C. Efallai nad ydych chi'n sylweddoli bod y sianel wedi ei sefydlu o ganlyniad i bwysau cenedlaethol o bob cyfeiriad oedd yn cynnwys gweithredu uniongyrchol a nifer o bobl yn cael eu hanfon i'r carchar er mwyn sicrhau bod Llywodraeth y pryd yn cadw at eu haddewid i sefydlu sianel Gymraeg i Gymru. Ni fydd pobl Cymru yn ildio i gwtogi'r Llywodraeth yn ysgafn, byddwn yn ymgyrchu yn yr un modd yn erbyn eich Llywodraeth os ydych am barhau â'r cynlluniau anghyfiawn hyn."Maen nhw hefyd yn beirniadu Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillian:"Rydym wedi gofyn am gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers misoedd ond heb dderbyn ymateb. Ymhellach, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne wrthym ym mis Mai bod eich ymrwymiad i gyllideb bresennol S4C am barhau. Ym mis Ebrill, mewn ymateb i'n llythyr at Cheryl Gillan, fe ddywedodd e: 'Fel y gwyddoch yr ydym wedi rhoi cefnogaeth gref i S4C yn y gorffennol ac yn parhau i wneud hynny... rydym yn parhau i fod yn hollol ymrwymedig i ariannu S4C fel yn y gorffennol.'"Bygwth torri'r gyfraith tros arian S4C - Golwg360 - 06/09/10Cymdeithas yn bygwth gweithredu - BBC Cymru - 06/09/10Language campaigners warn of direct action on S4C cuts - BBC Wales - 06/09/10Language campaign threatens direct action over S4C cuts - Western Mail - 06/09/10DURING the 1970s, Welsh language activists campaigned for a TV service in the language - Western Mail - 06/09/10MP asked not to vote for cuts to S4C's budget - Tivy Side - 06/09/10