Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo'r BBC o weithredu yn 'annemocrataidd' trwy baratoi i gyhoeddi manylion am ddyfodol S4C tra bod trafodaethau San Steffan yn parhau.Disgwylir i'r BBC gyhoeddi cynnig am gyllido S4C rhwng 2015 a 2017, er nad oes grym statudol iddynt wneud hynny gan fod unrhyw gytundeb yn dibynnu ar ganiatâd Seneddol. Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae'r gorfforaeth yn Llundain yn 'ymddwyn fel cwn bach y Llywodraeth' wrth lofnodi cydgynllun sydd yn gadael i'r BBC benderfynu ar gyllideb y sianel a chytuno i drefniant llywodraethol heb ganiatad S4C nag eu gwylwyr.Y llynedd, fe gytunodd y BBC i fargen sydd yn caniatáu i Lywodraeth Prydain gwtogi ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, o £101 miliwn yn 2010-11 lawr i £7 miliwn yn 2014/15, ac ariannu'r sianel trwy'r ffi drwydded o 2013/14 ymlaen - toriad o dros 40% mewn termau real i gyllideb y sianel yn ei gyfanrwydd.Mewn llythyr agored i Ymddiriedolaeth y BBC, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams yn dweud:"Ysgrifennwn atoch i fynegi pryder am y ffaith eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dyfodol S4C yn y dyfodol agos heb ymgynghori â phobl Cymru a thra bod proses Seneddol yn mynd yn ei flaen. Ni fu mewnbwn gan bobl Cymru na gwleidyddion Cymru yn y Cynulliad felly credwn fod y cynlluniau yr ydych yn eu trafod yn annilys ac yn annemocrataidd..."Parha lythyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth alw am ohirio'r penderfyniad dros gynnig neu gytundeb ynghylch dyfodol unig sianel deledu Gymraeg y byd er mwyn cynnal adolygiad llawn o S4C:"Hyd yma mae'r BBC wedi llwyddo i anwybyddu consensws trawsbleidiol y Pwyllgor Materion Cymreig trwy weithredu cynlluniau yn groes i'w hargymhellion... Bydd y cynlluniau yr ydych yn bwriadu eu cyhoeddi'n groes i'r broses ddemocrataidd ac felly ni ddylent gael eu cyhoeddi. Yn hytrach, fe ddylech alw am adolygiad llawn ac annibynnol o S4C, fel y mae nifer o fudiadau wedi galw amdano, ac aros hyd y nes bod penderfyniad teg yn cael ei wneud ar sail hynny."Ychwanegodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"O'r dechrau, mae'r BBC wedi ymddwyn fel cwn bach y Llywodraeth yn Llundain. Yn hytrach nag amddiffyn y Gymraeg a darlledu yng Nghymru yn gyffredinol, mae rheolwyr y gorfforaeth yn Llundain wedi penderfynu anwybyddu'r galwadau trawsbleidiol. Ers hynny, mae eu cynrychiolwyr yng Nghymru wedi ceisio dadlau eu bod yn ceisio gwneud y gorau gyda'r hyn sydd wedi eu gorfodi arnynt gan y Llywodraeth. Wel, nid yw hynny'n wir, fel dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol o flaen ASau, fe gytunodd y BBC i'r fargen hon 'yn rhydd'."Mae'r cynlluniau ar gyfer S4C wedi eu beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, dau bwyllgor San Steffan, degau o undebau a mudiadau iaith a degau o filoedd o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, mynychu ralïau ac ysgrifennu at wleidyddion. Fe dderbyniodd ASau dros 1,200 o e-byst yn gwrthwynebu'r cynlluniau o fewn mater o ddiwrnodau cyn pleidlais pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl.