Bu Aelod Cynulliad Rhyddfrydol yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr iaith i ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru mewn rali dros ddyfodol darlledu yn Wrecsam Dydd Sadwrn, Medi 8fed.Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r daflen a ddosbarthwyd yn ystod y rali (PDF)Mae'r galwadau yn dilyn newyddion bod dros 100 o swyddi yn mynd i gael eu colli yn y BBC yng Nghymru ar ben y cynlluniau a gyhoeddwyd y llynedd i'r Llywodraeth dorri ei grant i S4C o 94% dros y pedair blynedd nesaf.Bu cyn-arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru Aled Roberts, Cynghorydd Plaid Cymru Marc Jones, ymgyrchydd lleol Nia Lloyd ac AS Wrecsam Ian Lucas yn annerch rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddyfodol darlledu yng Nghymru a fydd yn dechrau tu allan i stiwdios y BBC yn y dref.Yn siarad yn rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bu Aled Roberts AC yn disgrifio'r cynlluniau ar gyfer S4C fel 'bygythiad' i ddyfodol yr iaith Gymraeg:"Mae yna gryn dipyn o gytuno ymhlith pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ynghylch cadw S4C yn annibynnol a dylai gwleidyddwyr San Steffan cymeryd sylw o'r safbwynt yma. Nid yw'n dderbyniol bod penderfyniadau ynghylch dyfodol ein hunig sianel Cymraeg i'w cymeryd yn Llundain yn ol datganiad diweddar y Gweinidog. Fe ddylai bod fformiwla wedi ei gytuno ynghylch ariannu'r sianel o 2015 ymlaen a bod penderfyniadau gweithredu yn cael eu cymeryd gan rheolwyr S4C. Mae'r sianel yn arf yn y frwydr i sefydlu Cymru fel gwlad dwyieithog a mae'r cynlluniau presennol yn fygythiad i'n cynlluniau i ddwyn mwy o'n plant i fyny yn Gymry Cymraeg am eu bod yn bygwth parhad y sianel."Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rwy'n falch bod aelodau o bob plaid yng Nghymru yn fodlon beirniadu'r cynlluniau annoeth ar gyfer S4C. Er bod yna gonsensws cryf yma yn erbyn y cynlluniau, nid yw hynny'n llwyddo i newid y penderfyniadau yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae'r toriadau i'r BBC ac S4C yn gwneud yr achos dros ddatganoli darlledu i Gymru yn gryfach nag erioed o'r blaen."Mae'r rheolwyr y BBC yn honni eu bod yn achub S4C, corfforaeth sydd yn wynebu toriadau eu hunain ac newydd gyhoeddi y byddan nhw'n torri 2,000 o swyddi. Maen nhw hefyd yn gwneud cynlluniau gyda'r llywodraeth am ddyfodol S4C tu ol i gefn y sianel er mwyn penderfynu ar gyllideb y sianel a'i chymryd drosodd. Wel, os hyn yw'r BBC a'r llywodraeth yn achub S4C pa obaith sydd yna? Mae'n ymgyrch dros y flwyddyn ddiwetha wedi bod a neges amlwg - nid yw pobl Cymru eisiau'r cynlluniau hyn. A'n neges ni i'r BBC heddiw yw: diolch - ond dim diolch."Ychwanegodd AS Llafur dros Wrecsam Ian Lucas:"Mae S4C yn rhan hanfodol o fywyd yng Nghymru, mae rhaid ei diogelu a'i datblygu. Nid oes ymddiried gyda ni o gwbl bod gan Lywodraeth y DU dealltwriaeth o bwysigrwydd y sianel wrth ystyried y ffordd maen nhw wedi ymdrin â'r mater hwn."Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam Marc Jones:"Cafodd S4C ei greu oherwydd grym protest ar hyd a lled Cymru. Mae o'n sianel a'i wreiddiau'n ddyfn yn ein cymunedau - yn cyflogi cannoedd drwy gwmniau annibynnol bach ac yn arloesi efo rhaglenni fel Sgorio a Superted. Ond dros y chwarter canrif diwethaf, collwyd y cyswllt allweddol hynny ac aeth S4C yn gorfforaeth hunan-bwysig oedd yn bwydo ychydig o gwmniau corfforaethol mawr eraill. Mae'r argyfwng presennol yn gyfle i ail-gysylltu'n sianel ni - Sianel Pobl Cymru - efo'r cymunedau unwaith eto."