Rydyn ni'n cefnogi'r rhai sy'n streicio, gan ddweud mai penderfyniad Llywodraethau i beidio buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi arwain at ddirywiad amodau gwaith a chyflog mewn termau real.
Mae'r streiciau yn ymwneud ag amodau gwaith yn ogystal â chynnydd mewn cyflogaeth, ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angenbuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cynnal amodau gwaith digonol.
Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi byw trwy 12 mlynedd o lymder, ac wedi gweld eu cyflogau'n disgyn. Mae hyn yn golygu fod mwy fyth yn cael eu gorfodi o'u cymunedau, gan eu bod yn methu fforddio prynu na rhentu cartref lleol, ac felly bod y cymunedau eu hunain yn dod yn anhyfyw oherwydd diffyg gweithwyr yn y gwasanaethau.
"Penderfyniad gwleidyddol yw peidio buddsoddi na blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr y sector cyhoeddus, yn yr un modd, penderfyniadau gwleidyddol sy'n milwrio'n erbyn y Gymraeg a'n cymunedau."
Mae tueddiad i feddwl am y Gymraeg fel rhywbeth ar wahân, ond nid yw hynny'n wir.
Ychwanegodd Robat Idris:
"Rydyn ni'n cefnogi'r rhai sy'n gweithredu'n ddiwydiannol, nid yn unig oherwydd cyfiawnder sylfaenol eu hachos, ond hefyd oherwydd fod eu llwyddiant yn hanfodol bwysig i barhad llawer o'n cymunedau Cymraeg."