Wrth ddathlu datganiad Kirsty Williams fod rhagdyb i fod yn y dyfodol yn erbyn cau ysgolion pentrefol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar arweinwyr Llywodraeth Leol i ymateb yn gadarnhaol, ac i "ddal ar y cyfle" i gyfrannu at barhad ein cymunedau gwledig Cymraeg.
Dywed Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Dathlwn y ffaith fod Kirsty Williams wedi perswadio'r Llywodraeth nad oes unrhyw fanteision addysgol i'w hennill o gau ysgolion na ellid eu cael trwy eu hannog i ddod ynghyd mewn ffederasiynau. Dathlwn fod rhagdyb yn erbyn cau ysgolion, ac y bydd yn rhaid i Gynghorau ddangos rhesymau da iawn dros amddifadu cymunedau o'u hysgol.
"Dyw cronfa o £2.5m, o'i rhannu trwy Gymru, ddim yn swm enfawr, ond y datblygiad pwysig yw na fydd llywodraeth ganolog yn defnyddio blacmel yn erbyn Awdurdodau Lleol o ran arian cyfalaf i wella ysgolion. Cymerwn na fydd y Llywodraeth bellach yn mynnu fod cau ysgolion cyn bod cynnig grantiau o Gronfa Ysgolion y 21ain ganrif ar gyfer gwelliannau nac adeiladau newydd. Blacmel fel hwn a achosodd i Gyngor Gwynedd gau Ysgol Parc, gan beryglu cymuned 91% Cymraeg, er mwyn sicrhau arian i ddatblygu safle Y Bala, ac i gau ysgolion Y Fron a Carmel er mwyn cael arian i ddatblygu Groeslon.
"Ond bydd yn dal yn haws i fiwrocratiaid lleol gau ysgolion yn lle gweithio gyda chymunedau ar gynlluniau cyffrous newydd. Bydd swyddogion Ceredigion yn dal yn awyddus i gau holl ysgolion Dyffryn Aeron a gosod y plant mewn safle canolog yn hytrach na gweithio gyda rhieni i wella'r ysgolion presennol. Rhaid fydd i arweinwyr cynghorau reoli eu swyddogion.
"Cyfle yn unig gawn ni drwy'r polisi newydd, ac mae popeth yn awr yn dibynnu ar ymateb cadarnhaol gan arweinwyr cynghorau. Ond byddwn ni fel cymdeithas yn anfon neges o ddiolch yr wythnos hon at y degau o gymunedau sydd wedi brwydro dros eu hysgolion yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Fe gafodd llawer ohonyn nhw eu siomi, ond mae eu hymdrechion wedi cynnig gobaith newydd i eraill."