08/09/2012 - 14:30
Sesiwn Ryngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
14:30, Dydd Sadwrn, 8fed o Fedi 2012
Canolfan y Morlan, Aberystwyth
Cynhelir rali flynyddol arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd cyfle gan siaradwyr i son am eu profiadau ymgyrchu mewn gwahanol lefydd yn y byd.
Siaradwyr:
yr Awdur a Darlledwr Mike Parker,
Llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE,
Paul Bilbao Sarria, cynrychiolydd y mudiad iaith Fasgeg Kontseilua,
Sian Howys ac eraill.
Fe fydd cyfarfod cyffredinol y Gymdeithas yn dechrau'r noson gynt am 7yh, Dydd Gwener yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ac yn parhau i drafod ymgyrchoedd fore dydd Sadwrn am 10 o'r gloch yn y ganolfan.
Am ragor o wybodaeth - dafydd@cymdeithas.org neu ffoniwch 01970 624501
cymdeithas.org