21/02/2024 - 20:55
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, i ddangos yr un uchelgais â phobl Cymru wedi iddo dderbyn ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus i Bapur Gwyn ar gyfer ei Fil Addysg Gymraeg.
06/12/2023 - 17:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am ddiffyg datblygiadau diweddar mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan alw am “newid agwedd sylfaenol” gan y Llywodraeth cyn iddynt gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn y flwyddyn newydd.
12/10/2023 - 13:15
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder dros ganfyddiadau adroddiad blynyddol interim Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn, gan ddweud eu bod yn “gadarnhad pellach” o fethiant ysgolion cyfrwng Saesneg i greu siaradwyr Cymraeg hyderus. Ategodd y mudiad ei galwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn erbyn 2050. Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
29/09/2023 - 17:48
Ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad ‘Un Iaith i Bawb’, a oedd yn argymell dileu Cymraeg ail iaith a chreu un llwybr dysgu Cymraeg yn ei le, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ddiffyg gweithredu sy’n golygu bod mwyafrif disgyblion Cymru yn dal i adael yr ysgol heb y gallu i siarad Cymraeg.