07/03/2025 - 12:45
Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio dros gynnig yn galw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru yn eu cyfarfod llawn ddydd Iau, 6 Mawrth. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu pasio’r cynnig sy’n galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i nodi’r penderfyniad a gweithio tuag at drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu o Lundain i Gaerdydd cyn gynted a phosib. Dywedodd Mirain Owen ar ran Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith:
17/01/2025 - 13:23
Rydyn ni wedi galw ar swyddogion cwmni radio masnachol Global Radio i wrthdroi ei benderfyniad i ddiddymu darpariaeth Gymraeg Capital North Wales, ac wedi gofyn i’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer telethrebu, Ofcom, am ei ran yn y penderfyniad. Mae’n debyg i Global wneud y penderfyniad yn sgil cyflwyno Deddf Cyfryngau newydd gan Senedd San Steffan y llynedd, wnaeth ddiddymu unrhyw reoliadau ar gynnwys a fformatio gorsafoedd radio masnachol. Mae hyn yn cadarnhau’r angen i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.
12/07/2024 - 09:09
Bydd arbenigwyr ym maes darlledu yn dod ynghyd yng Nghaernarfon ddiwedd y mis i drafod Corff Cyfathrebu newydd Cymru.
12/03/2024 - 17:53
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru, gan ei ddisgrifio fel “cam hanesyddol” tuag at ddatganoli grymoedd darlledu i Senedd Cymru. Dywedodd Mirain Owen, Is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith: