17/01/2025 - 13:23
Rydyn ni wedi galw ar swyddogion cwmni radio masnachol Global Radio i wrthdroi ei benderfyniad i ddiddymu darpariaeth Gymraeg Capital North Wales, ac wedi gofyn i’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer telethrebu, Ofcom, am ei ran yn y penderfyniad. Mae’n debyg i Global wneud y penderfyniad yn sgil cyflwyno Deddf Cyfryngau newydd gan Senedd San Steffan y llynedd, wnaeth ddiddymu unrhyw reoliadau ar gynnwys a fformatio gorsafoedd radio masnachol. Mae hyn yn cadarnhau’r angen i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.
12/07/2024 - 09:09
Bydd arbenigwyr ym maes darlledu yn dod ynghyd yng Nghaernarfon ddiwedd y mis i drafod Corff Cyfathrebu newydd Cymru.
12/03/2024 - 17:53
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru, gan ei ddisgrifio fel “cam hanesyddol” tuag at ddatganoli grymoedd darlledu i Senedd Cymru. Dywedodd Mirain Owen, Is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
15/01/2024 - 15:35
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cwrdd â Chyfarwyddwr y BBC yng Nghymru, Rhuanedd Richards, i glywed ei barn am argymhellion panel o arbenigwyr ar ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, yn ôl dogfen sydd wedi ei rhyddhau trwy gais rhyddid gwybodaeth.