Arolwg o’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd

Diolch am ddangos diddordeb yn ein harolwg. Y bwriad yw profi'r defnydd o safonau'r Gymraeg yn y sector iechyd er mwyn rhannu arfer da a hyrwyddo gwelliannau lle bo angen.
 
Ym mis Mai eleni, gosodwyd safonau iaith ar sefydliadau iechyd yng Nghymru. Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, mae’r safonau hyn yn “rhoi hawl i bobl ddelio gyda sefydliadau iechyd yn Gymraeg a derbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt”.