Cyfnod Cyffrous i'r Alban

Roedd yn rhaid mynd yno – i weld â’n llygaid ein hunain. Ac os cewch siawns, ewch chitha hefyd – mae’n donig i galon ymgyrchwyr. Dim ond dwy noson a gawsom yno, yn ninas hardd Caeredin, ond roedd yn ddigon. O’r cyfarfod cyntaf y buom ynddo ar y noson gyntaf, cawsom y fraint o synhwyro y chwyldro tawel sy’n digwydd yn y wlad hon. Equality Trust oedd yn trefnu’r cyfarfod, ac mae cannoedd yn tyrru i gyfarfodydd cyhoeddus ym mhob cornel o’r Alban.
 
Nid ar genedlaetholdeb y maent yn seilio’r ymgyrch hon, yn ddiddorol, ond ar yr angen i greu cymdeithas well, decach. Ac ydi, mae’n anodd dadlau yn erbyn hynny. Nid gyda’r pleidiau gwleidyddol y buom yn cyfarfod, ond gyda’r myrdd o gymdeithasau sydd wedi eu ffurfio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf – Radical Independence, National Collective (criw o bobl artistig sy’n cefnogi annibyniaeth), Labour for Yes, Women for Independence, a Greens for Yes. Mae llawer o’r rhain wedi eu sefydlu drwy gyfryngau cymdeithasol, ac mae’n ddifyr gweld dylanwad y rhain yn wyneb y wasg sy’n gwbl negyddol (oni bai am y Sunday Herald).
 
Cryfder yr ymgyrchoedd hyn yw’r modd y maent yn cysylltu efo gwerin gwlad. Gallant gael pobl allan i ganfasio, ac maent yn ymroi gorff ac enaid i’r ymgyrch. Ychydig wythnosausydd yna yn weddill. Dwi’n amau yn gryf y bydd yr ochr IE yn llwyddiannus. Ond hyd yn oed os na fyddant yn ennill y dydd, mae gwleidyddiaeth yr Alban wedi newid am byth. Gwelais frwdfrydedd na welais ei debyg ers dyddiau Streic y Glowyr a’r ymgyrch yn erbyn Treth y Pen. Unwaith mae pobl yn cael blas ar feddwl drostynt eu hunain, does dim byd ar wyneb daear all eu rhwystro. Mater o amser yn unig ydyw.
 
Diolch i Sioned Haf am drefnu’r daith a diolch iddi am wneud y ffilm o Gymru i ddangos cefnogaeth. Roedd mwy nag un yn ei ddagrau yn ei gwylio:
 
 
Angharad Tomos