Cred Cymdeithas yr Iaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bod gan bawb yr hawl i'w dysgu. Ar hyn o bryd, mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru'n cael gwersi Saesneg am ddim wedi'u darparu gan y wladwriaeth, ond nid gwersi Cymraeg. Mae prosiect dros dro gan Brifysgol Caerdydd yn darparu gwersi Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ond ni ddarperir cyllid gan Lywodraethau Prydain a Chymru ar gyfer gwersi Cymraeg ar draws y wlad.
Mae nifer o'r bobl sy'n dod i Gymru yn siarad mwy nag un iaith ac yn dod o wledydd lle mai amlieithedd yw'r norm, yn aml maent yn awyddus i ddysgu Cymraeg, ac am hanes a diwylliant Cymru, ond nid ydynt yn cael y cyfle. Mae agweddau nawddoglyd a rhagfarnllyd gan yr awdurdodau wedi rhwystro cyflwyniad 'Cymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill' yng Nghymru, gydag ymchwil gan Dr Gwennan Higham yn dangos bod gweision sifil yn credu byddai cyflwyno'r Gymraeg i fudwyr yn ddiwerth ac y byddai'n eu 'drysu'. Effaith hyn ydy dadnormaleiddio'r Gymraeg, a rhwystro pobl sy'n dod i'n gwlad a'u teuluoedd rhag meddu ar yr iaith a'r holl gyfleoedd mae'n eu cynnig.
Rhaid gweld yr annhegwch hwn yng nghyd-destun ehangach system ffiniau a mewnfudo y Deyrnas Gyfunol, sy'n dreisgar, creulon ac anghyfiawn. Wrth geisio lloches, mae'n rhaid wynebu proses biwrocrataidd, hirfaith a gelyniaethus. Yn ystod y broses, mae ceiswyr lloches yn cael £37.75 yr wythnos i fyw ac nid oes ganddynt yr hawl i weithio. Mae miloedd yn cael eu carcharu mewn canolfannau cadw, heb gyflawni unrhyw drosedd, am gyfnodau heb derfyn statudol. Caiff pobl sydd wedi byw yma ers blynyddoedd eu halltudo am beidio cael y papurau iawn, ac mae'r gwasanaeth gorfodaeth mewnfudo'n cynnal cyrchau ar weithleoedd a mannau cyhoeddus i gwestiynu pobl am eu statws mewnfudo. Y llynedd, lladdwyd dyn ifanc o'r enw Mustafa Dawood mewn cyrch o'r fath yng Nghasnewydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am wersi Cymraeg am ddim i bob ceisiwr lloches a ffoadur yng Nghymru, wedi'u hariannu gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru, ynghyd â rhagor o gefnogaeth i brosiectau llawr gwlad sy'n dysgu Cymraeg i fudwyr. Rydym hefyd yn galw am system ffiniau a mewnfudo cyfiawn. Ymysg mesurau eraill, dylai hyn gynnwys rhoi diwedd ar garcharu mudwyr, yr hawl i weithio a chefnogaeth ystyrlon.
Nid ein bwriad yw gorfodi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddysgu Cymraeg fel amod iddynt gael triniaeth gyfiawn. Rydym am rannu a dathlu ein hiaith gyda phawb sy'n dod yma i fyw. Mae mudwyr o bob rhan o'r byd wedi cyfoethogi ein cymunedau a gwneud cyfraniadau mawr at ffyniant yr iaith.
Mae'r frwydr dros y Gymraeg yn rhan o'r frwydr ehangach dros hawliau a rhyddid i bawb, ac felly dylem ymgyrchu dros wlad sy'n croesawu, cefnogi a chynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches ymhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys y Gymraeg
Mabli Siriol,Cadeirydd, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith