"Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo."
Roedd geirau Saunders Lewis yn wir pan y'u llefarwyd yn 1962 ac maent yr un mor wir heddiw. Ond cyn mynd dim pellach, mae'n rhaid imi gyfaddef nad yr un yw ystyr y gair 'chwyldro', i mi heddiw, â'r hyn a olygai i Saunders Lewis ac i'r bobol ifanc a ymatebodd i'w alwad, hanner canrif yn ôl.
I mi, rwan, digwyddiad sy'n teilyngu cael ei alw'n 'chwyldro' ydi dosbarth cymdeithasol darostyngedig yn dymchwel dosbarth cymdeithasol arall sy'n ei orthrymu ac yn ei lywodraethu. Fel y disgwyddodd yn Ffrainc ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan orchfygwyd y dosbarth llywodraethol aristocrataidd gan y dosbarth canol, y bourgeoisie. Digwyddodd chwyldroadau tebyg yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond nid yn The United Kingdom of Great Britain and Ireland, gwaetha'r modd. Yr un hen grachach sydd wedi bod wrth y llyw yn y gwledydd hyn ers 1066 ac gwnaethant eu gorau i drechu chwyldroadau yma ac ym mhob rhan o'r byd byth er hynny. Wn i ddim os oes yma bobol o Sir Benfro? Os oes, mae'n rhaid imi ddweud mod i'n methu dallt pam eich bod chi mor barod i ganu clodydd Jemeima Niclas a'i ffrindiau. Mi fyddai gen i fwy o feddwl ohonyn nhw taen nhw wedi croesawu'r Ffrancwyr i Abergwaun, fel gwnaeth y Gwyddelod. Byddai hynny wedi bod o les gwleidyddol a gastronomig i Gymru.
Yn 1917, cafwyd yn Rwsia chwyldro yr oedd Niclas arall o Sir Benfro, y bardd T.E.Niclas, yn frwd o'i blaid, pan gipiodd y werin weithiol, dan arweiniad Lenin a'r Bolsieficiaid, awennau'r wladwriaeth oddi ar y Tsar a'r uchelwyr.
Mae gweithred cenedl ddarostyngedig yn ennill ei rhyddid a'i hannibyniaeth oddi wrth genedl estron, fel y digwyddodd yn Iwerddon ac yn Asia a'r Affrig yn ystod yr ugeinfed ganrif, hefyd yn chwyldro, go-iawn, wrth gwrs.
Os derbyniwn ni'r y diffiniad hwn o chwyldro, doedd y strategaeth a argymhellodd Saunders Lewis yn ei Ddarlith Radio ddim yn un 'chwyldroadol'. "Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi'n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg..."
Diwgio'r dref, newid y drefn o blaid y Gymraeg fyddai'r nod ac nid ei newid yn llwyr ac yn gyfan gwbl. Ond mi oedd hynny'n nod a hon yn strategaeth a weddai i dim i gyflwr trist Cymru a'r Gymraeg ar ddechrau chwedegau'r ganrif ddwytha. Roedd hi'n cydweddu ag ysbryd yr oes ac â gwrthryfel pobol ifainc ledled Ewrop a Gogledd America yn erbyn gorthrymderau ar sail lliw croen, crefydd, rhyw, cenedligrwydd ac iaith ac yn erbyn militariaeth imperialaidd yr Unol Daleithiau yn Fietnam ac ymdrechion gwaedlyd Lloegr a gwledydd Ewropeaidd eraill i ddal eu gafael yn eu trefedigaethau yn Affrica ac Asia. Enghraifft arall o athrylith ac eangfrydedd Saunders Lewis yw fod y ceidwadwr hwn, gwr a chanddo lawer mwy o barch at filwriaeth na'r rhan fwyaf o'i gydwladwyr, wedi gweld priodoldeb tor-cyfraith di-drais yn y cyfwng hwnnw.
Arweiniodd safiad gwrol y teulu Beasley a darlith radio Saunders Lewis at sefydlu un o fudiadau hawliau sifil mwyaf effeithiol a welwyd yng ngwledydd Prydain. Wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r mudiadau eraill a'r unigolion a ysbrydolwyd ganddi ddim llwyddo i achub ein hiaith am byth ond oni bai am ymgyrchoedd y Gymdeithas ac aberth ei haelodau, mi fyddai ofnau Saunders Lewis a sawl un arall ynglyn à 'thynged yr iaith' wedi eu gwireddu a'r Gymraeg ymhell ar y ffordd i ebargofiant erbyn hyn.
Er cymaint a gyflawnodd y Gymdeithas, ni fu hi erioed yn fudiad chwyldroadol. Newid y drefn, diwygio'r drefn fu ei nod o'r dechrau cyntaf, nid dymchwel y drefn a chodi trefn newydd ar yr adfeilion. Yn hyn o beth mae hi'n debyg i'r mudiad dros hawliau sifil Affro-Americanwyr yn UDA a'r ymgyrchu dros hawliau menywod a phobol hoyw yng ngwledydd y Gorllewin yn gyffredinol Gorfodwyd y dosbarthiadau llywodraethol i ildio consesiynau gwerthfawr a phwysig yn y meysydd hyn, fel ag yn achos y Gymraeg, ond mi gadwon nhw eu grym a'u gallu a'u hawdurdod gwleidyddol ac economaidd. Ildiwyd consesiynau er mwyn parhau i lywodraethu ac i allu ddiddymu'r consesiyna pan ddeuai cyfle. Dyna fu hanes S4C. Wnaeth y Toriaid erioed faddau i'r Cymry am unig 'u-turn' Maggie Thatcher. Llynedd, daeth eu dial.
Rydym yn llawenhau oherwydd fod gan UDA arlywydd croenddu ond yn gorfod cydndabod, yn siomedig iawn fod Barak Obama mor ryfelgar, llofruddiaethol ac imperialaidd â'i ragflaenydd, a'r un mor ufudd i orchymynion y corfforaethau amlwladol anferthol a ariannodd ei ymgyrchcoedd arlywyddol. Faint o ffeministiaid Cymru fyddai'n arddel Maggie Thatcher fel eicon? Faint o hoywon sosialaidd sy'n ffaniau i Lord Peter 'Filthy Rich' Mandleson? Ddown ni ddim yn agos at ddileu pob rhagfarn, pob anghyfartaledd a phob anghyfiawnder cymdeithasol a diwylliannol heb chwyldro go-iawn. Chwyldro sosialaidd.
Crechwenu'n sinigaidd fydda i pan glywa'i benaethiaid y Sianel a'r BBC yn brolio eu 'hannibyniaeth'. Maen nhw a'u Byrddau a'u Hymddiriedolaeth a'u pen-bandits wedi bod yn llwyr ddibynnol ar y Wladwriaeth Brydeinig ac yn hollol ufudd i orchmynion y Sefydliad Seisnig, o'r dechrau cyntaf. Dyna pam mae nhw yno. Elit Cymraeg benodwyd gan wleidyddion a gweision sifil Lloegr i arwain ac i weinyddu sefydliadau fel y ddiweddar Brifysgol Cymru, S4C, BBC Cymru a Radio Cymru. Gwyr a gwragedd a benodwyd i Fyrddau ac i uchel-swyddi am eu bod yn Gymry Da ac yn Brydeinwyr gwell. Ac oherwydd fod y Sefydliad Cymraeg yn gorfod gwasanaethu dau feistr, sef y Sefydliad Seisnig yn ogystal â phobol Cymru, mi wnaethon orfodi ein prifysgol genedlaethol ni i gyflawni hunan laddiad a mi wnaethon smonach o'r Sianel, o Radio Cymru ac o BBC Cymru yn ei gyfanrwydd.
Ceiniogau'r werin gododd golegau ein diweddar Brifysgol ond pwysigion Prydeingar lenwodd y swyddi breision. Gwrthdystio dygn ac aberth aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg drawsnewidiodd y byd darlleldu yng Nghymru ond Cymry llai gwrol a mwy uchelgeisiol a benodwyd i reoli'r byd hwnnw, o fewn y canllawiau a bennwyd gan y Wladwriaeth Brydeinig.. Dyna'r drefn mewn trefedigaeth. Trefedigaeth olaf Lloegr ydi Cymru ac nid yw'r ffaith fod gennym Gynulliad ym Mae Caerdydd yn lliniaru fawr ddim ar y ffaith drist honno.
Dyma adnod enwog arall o'r Ddarlith Radio: "Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth..."
Roedd Saunders Lewis yn llygad ei le pan flaenorodd, yn 1962, ymgyrchu dros statws swyddogol i'r Gymraeg dros ymladd etholiadau seneddol yn druenus o aflwyddiannus bob pum mlynedd. Hanner canrif yn ddiweddarach, dydw i ddim yn meddwl fod gobaith y bydd y Gymraeg yn goroesi lawer iawn hwy heb Senedd yn meddu grym deddfwriaethol a chyllidol cyflawn ynghyd ag awdurdod economaidd sylweddol. Llywodraeth a fyddai'n gwarantu gwaith a chyflogaeth deg i bawb sydd am weithio; yn creu gwasanaeth iechyd a chyfundrefn addysg gyda goreuon Ewrop; yn ail-wladoli'n rheilffyrdd, dwr a'r diwydiant ynni; yn codi miloedd o dai cyngor da i'w rhentu'n rhesymol; yn meddu'r gallu a'r ewyllys i gyfeirio gwaith a swyddi gweinyddol i ardalodd lle mae'r Gymraeg yn parhau'n iaith feunyddiol ymhlith cyfran helaeth o'r boblogaeth. Llywodraeth ac arni angen iaith genedlaethol i gadarnhau ei hunaniaeth Gymreig ei hun a'i deiliaid. Llywodraeth a fyddai'n llafar ei chondemniad o ryfeloedd imperialaidd UDA a Lloegr a'u cyngrheiriaid, ac yn estraddodi o Gymru i Loegr luoedd arfog y wlad honno, sydd wedi trawsfeddiannu dros ddeg y cant o'n tir. Dyna beth fyddai chwyldroad o'r iawn ryw. Dydw i ddim yn meddwl y gall y Gymraeg oroesi heb chwyldroad o'r fath. Dydw i ddim yn meddwl y gall cymdeithas waraidd o unrhyw fath barhau yn unrhyw ran o Gymru heb chwyldroad tebyg.
Mi allwn ni ralïo, protestio, gorymdeithio, ymprydio, pregethu, moesoli, deisebu a lobïo pob dydd am ddeng mlynadd arall heb i ganlyniadau'r Cyfrifiad nesaf fod ronyn fwy calonogol na'r un diweddaraf.
Yn gynharach eleni roeddwn i yn rali'r Gymdeithas yn gwrando ar Catrin Dafydd a Tony Schiavonne yn taranu yn erbyn y 'bobol bwerus' sy'n ein llywodraethu ni. A dyma fi'n meddwl: 'Ddyla rhein ddim bod yn rhethregu yn y gwynt a'r glaw o flaen neuadd y dre yn Merthyr Tudful. Mi ddylan fod yn y Cynulliad yn defnyddio eu doniau a'u deallusrwydd a phwer gwleidyddol, democrataidd i greu Cymru well. Cymru gyfiawn, Gymreig a Chymraeg. Rydw i'n meddwl yr un fath ynglyn â 'nghyfeillion yn y mudiad Dyfodol i'r Iaith. Dylai'r bobol alluog ac egwyddorol yma fod yn y Bae yn deddfu yn lle mynd yno i ymbil am friwsion gan rai llawar llai abal na nhw.
Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo...
Beth ydy'r dulliau hynny, yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn gwlad Ewropeaidd sy'n meddu llawer o hawliau democrataidd, er eu bod nhwtha dan fygythiad? Mae'r ateb yn amlwg: cyfuniad o wleidyddiaeth etholiadol, yn lleol ac yn genedlaethol, a gwrthdystio all-seneddol, gan gynnwys tor-cyfraith di-drais. Y cyfuniad hwnnw o weithredu mewn senedd a chyngor a'r tu allan iddynt ennillodd inni yr hawliau democrataidd a chymdeithasol y mae'r Llywodraeth bresennol wrthi mor ddygn yn eu diddymu.
Bron y medra'i'ch clywed chi'n meddwl: 'Pa obaith sy'na o weld yr un o'r pleidiau sy'n ein cynrychiol ni yn y Cynulliad yn mabwysiadu polisiau mor flaengar?'
'Dim un, ar hyn o bryd' ydy'r atab gonast. Mae'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Lib-dems i gyd yn bleidiau neo-ryddfrydol; hynny yw, maen nhw'n derbyn tra-arglwyddiaeth absoliwt y Farchnad Rydd ddilyffethair; y Toriaid a'r Lib Dems gyda brwdfydedd; Llafur a Phlaid Cymru dan rwgnach yn ddiymadferth. Does'na'r un yn mynnu y dylai'r bancwyr dalu am yr argyfwng economaidd grewyd ganddyn nhw nac yn herio'r celwydd fod toriadau yn y gwasanaethau cymdeithasol yn anorfod a bod aircraft carriers, arfau niwclear, a miloedd o heddlu cudd yn anhepgorol i'n cadw ni'n ddiogel. Mae'r pedair plaid yn croesawu presenoldeb Lluoedd Arfog Lloegr yn ein gwlad ac yn gefnogol, felly, i bolisi tramor imperialaidd sy'n hudo bechgyn a merched diniwed, diwaith i faes y gad ym mhellafoedd byd i ladd ac andwyo a chael eu lladd a'u handwyo.
Be 'nawn ni? Ffurfio plaid arall? Troi Cymdeithas yr Iaith yn blaid wleidyddol? Nage, yn bendifaddau.
Sefydlwyd dwy o'r prif bleidiau gan bobol oedd yn arddel daliadau rhagorach na'r gwleidyddion proffesiynol, cydymffurfiuol a diweledigaetwh sy'n ein cynrychioli ni yn y Bae ac yn ein neuaddau sirol. Serch hynny, mae miloedd o aelodau cyffredin o'r Blaid Lafur ac o Blaid Cymru yn parhau i goleddu daliadau dyneiddiol ynglyn â heddwch byd a chyfiawnder cymdeithasol; er fod arweinwyr y Blaid Lafur wedi gwneud eu gorau glas i dagu sosialaeth ac arweinwyr Plaid Cymru wedi gneud yr un modd efo cenedlaetholdeb. Mae arweinwyr y ddwy blaid wedi hen gefnu ar heddychiaeth a gwrth-filitariaeth Keir Hardie a Gwynfor Evans.
Does dim drwg sy'n ddrwg i gyd ac yn sgil canlyniadau siomedig y Cyfrifiad ymddangosodd consensws ynglyn â'r angen am ddatblygiadau economaidd a chynllunio cymdeithasol mewn ardaloedd penodedig os yw'r Gymraeg i fyw. Ond waeth pa mor ddwys a diffuant fydd y trin a'r trafod, ddaw 'na ddim o'r pwyllgora y cynadledda a'r arsyllu oni ffrwynir y farchnad rydd. Oni chawn ni lywodraeth fydd yn hyrwyddo cydweithrediad ac nid cystadleuaeth, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn hytrach na budd a lles y lleiafrif goludog ar draul y gweddill ohonom.
Meddai Saunders Lewis yn 1962 wrth annog 'codi'r Gytmraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r sir':
Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym. Hwyrach eich bod yn iawn. Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd y mae'n werth i Gymro ymboeni ag ef heddiw.
Ac efallai y dywedir mai breuddwyd gwrach ydy galw am ymgyrch i greu Cymru Rydd, Cymru Gymraeg a Chymru Sosialaidd. Ond mae hi'n argyfwng ar Farchnad Rydd hollalluog ac ar Gyfalafiaeth ym mhedwar ban byd. Mae'r argyfwng economaidd hwnnw yn siglo seiliau'r Undeb Ewropeaidd, awch Catalwnia a Gwlad y Basg am ryddid yn herio'i gyfansoddiad a datblygiad tebyg yn yr Alban yn bygwth y Deyrnas Gyfunol. Os ydy Cymru i fanteisio ar y datblygiadau hyn mae gofyn bod ganddi arweinwyr gwleidyddol o sosialwyr gwlatgarol i'w chynrychioli yn y Cynulliad, yn San Steffan, ym Mrwsel ac fel aelodau o'n cynghorau lleol.
Dydw i ddim yn aelod o'r Blaid Lafur na Phlaid Cymru ac efallai bod hynny'n rhoid yr hawl imi annog ieithgarwyr a gwlatgarwyr i ymuno neu i ail-ymuno a nhw ac i gydweithio i weithredu polisiau sosialaidd chwyldroadol gyda gyda'i gilydd, gyda mudiadau a phleidiau blaengar eraill ym mhob rhan o Brydain ac yn bennaf oll, gyda mudiad yr Undebau Llafur.
Hanfod chwyldro ydi grym. Yn y cyd-destun hwn, mynnu grym a'i ddefnyddio i hyrwyddo amcanion gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd democrataidd, yn ffyddiog bod Cymru arall a byd arall yn bosib. Mae miliynau o bobol ym mhedwar ban byd yn meddwl fod byd arall yn bosib ac os ydy Cymru i fyw mae gofyn i bobol Cymru ymuno â nhw yn y frwydr i oroesi. Rydw yn argyhoeddiedig mai'r dewis sy'n wynebu Cymru, y ddynoliaeth a'r blaned ydi sosialaeth neu farbariaeth
Yn yr argraffiad diweddaraf (2012) o Tynged yr Iaith,, cynhwysir sgript y sgwrs rhwng Saunders Lewis a Meirion Edwards a ddarlledwyd yn 1968. Ynddi holodd Meirion Edwards:
Ydych chi'n meddwl bod cymoedd diwydiannol y de yn ddigon agos at eu hanes nhw eu hunain, at eu Cymreigrwydd nhw eu hunain i ni fedru adfer y sefyllfa o safbwynt yr iaith yn y cymoedd yma?
Atebodd Saunders Lewis gyda'i onestrwydd arferol: Does gen i ddim syniad, dwi ddim yn gwybod a fedrwn ni ai peidio.
Erbyn hyn, mae llwyddiant rhyfeddol addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y De-ddwyrain yn caniatau inni roi ateb cadarnhaol i'r cwestiwn. Ac mae'r hen ysbryd gwrth-ryfelgar yn dal i fud-losgi ymhlith gwerin weithiol ddi-Gymraeg yn yr ardaloedd a fu gynt yn rhai glofaol. Nid oes yr un blaid yn cynrychioli buddiannau'r dosbarth hwn ar hyn o bryd. Rwyn credu y byddai'n ymateb yn gadarnhaol i raglen wleidyddol o a fyddai'n gweld parhad y Gymraeg fel un o elfennau hanfodol ymgyrch wleidyddol ac undebol dros gyfiawnder cymdeithasol. Deilliai adfywiad i'r Gymraeg o fod yn rhan allweddol o'r frwydr ffyrnig a digyfaddawd honno.
Rydw i am derfynu trwy ddyfynu geiriau dau wr mae gen i feddwl mawr ohonyn nhw. Saunders Lewis ac Antonio Gramcsi.
Meddai Saunders Lewis yn ei Ddarlith Radio: A ydy'r sefyllfa yn anobeithiol?, Ydy wrth gwrs,os bodlonwn ni i anobeithio. Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio. Wedyn gall dyn fynd ymlaen i fwynhau byw.
Comiwnydd o Sardinia oedd Antonio Gramsci. Gwr bychan o gorff, mawr ei athrylith, fel Saunders Lewis. Fe'i carcharwyd am un mlynedd ar ddeg gan yr unben Ffasgaidd, Mussolini a ddywedodd: 'Rhaid inni rwystro'r meddwl mawr hwn rhag meddwl.' Lwyddodd o ddim ac mae Nodiadau'r Carchar Gramsci yn parhau yn fawr eu dylanwad ar sosialwyr ac ysgolheigion ledled y byd
Arwyddair Antonio Gramsci oedd: 'Pesimistiaeth y deall. Optimistiaeth yr ewyllys'. Hynny yw, peidio â thwyllo ein hunain ynglyn â'r sefyllfa ddifrifol a dyrys rydan ni ynddi ond gwrthod ildio a dal ati, serch hynny. All neb ragweld y dyfodol. Mi allwn ennill. Ond os rhown ni'r gora i'r frwydr rwan, rydan ni'n bownd o golli. I'r gad. I'r cynghorau.I'r Cynulliad. I ryddid."
GARETH MILES
Rali Pont Trefechan, Aberystwyth, 02.02.12
(Nid yw'r erthygl uchod yn adlewyrchu barn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel mudiad. Yn hytrach, barn bersonol Gareth Miles yw hi a areithiwyd ganddo mewn rali yn Aberystwyth.)