Miliwn o Siaradwyr Cymraeg – Dyma'r Cyfle

Gyda Llywodraeth newydd wrth y llyw ym mae Caerdydd, mae cyfle i garedigion y Gymraeg ymgyrchu o'r newydd er mwyn sicrhau gweithredu er lles yr iaith.

Cyn yr etholiad, cytunodd aelodau o bob plaid sydd yn y Cynulliad newydd (ac eithrio UKIP) gydag egwyddorion ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg: 

  • creu miliwn o siaradwyr Cymraeg;
  • atal yr allfudiad; a
  • rhoi hawl i ni ddefnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd

Nawr yw'r amser iddyn nhw gadw at eu gair a dechrau gweithredu.

O ran y blaid Lafur a Carwyn Jones, addawon nhw weithio tuag at "miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," ond heb lawer o fanylder cyn yr etholiad – nawr, ym misoedd cyntaf y Llywodraeth newydd, mae cyfle iddyn nhw ddangos eu bod o ddifri am y Gymraeg. A fydd cynllun cynhwysfawr i sicrhau ffyniant y Gymraeg? A welwn ni gamau pendant tuag at addysg Gymraeg i bawb?

Rydyn ni wedi brwydro'n galed er mwyn sicrhau bod consensws ynghylch ein prif nodau: nodau sydd wedi eu llunio nid yn unig er mwyn ehangu gorwelion ein gwleidyddion, ond i godi golygon holl bobl Cymru.

Gyda chynifer o Aelodau Cynulliad newydd, a thymor y Llywodraeth newydd gychwyn, dyma'r cyfle i weithredu o ddifrif dros ein hiaith.

Buom yn falch iawn o'r cyfle i gwrdd â'r Gweinidog newydd gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Alun Davies AC, yn ystod Eisteddfod yr Urdd. Yn wir, roedd yn galonogol gweld ei fod yn sylweddoli fod symud at addysg Gymraeg i bawb yn gwbl angenrheidiol, ac yn ganolog i unrhyw ymdrech wirioneddol i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Ac rydym yn edrych ymlaen at herio, ynghyd â chynorthwyo, y Llywodraeth i weithredu'n ddewr gyda chynllun hir dymor i gyrraedd y nodau hyn.

Drwy gydol y Cynulliad diwethaf, buon ni'n cyd-weithio gyda'r holl bleidiau yn y Cynulliad, er, ar adegau, bu gennym wahaniaeth farn ar sawl mater gyda nifer ohonynt. Gweithion ni'n ddiwyd gyda'r gwrth-bleidiau i graffu ar waith y Llywodraeth. Buon ni'n dylanwadu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys darparu nodiadau briffio a chynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda llefarwyr y pleidiau a Gweinidogion, fel mae nifer o grwpiau pwyso eraill yn ei wneud.

Fodd bynnag, fis diwethaf, cytunon ni'n unfrydol mewn cyfarfod o'n pwyllgor rheoli cenedlaethol, ein Senedd, na fyddwn ni'n cydweithio gydag UKIP, a hynny ar sail eu rhagfarn. Felly, fyddwn ni ddim yn darparu nodiadau briffio na chynnal cyfarfodydd unigol gyda nhw.

Mae UKIP wedi hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas - pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thraws, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobl sydd â HIV - a'r Gymraeg.

Yn ystod etholiadau'r Cynulliad, meddai ymgeisydd UKIP Gareth Bennett, sydd bellach yn Aelod Cynulliad, bod cymysgedd o bobl o hiliau gwahanol yng Nghaerdydd yn mynd 'ar nerfau ei gilydd' ac yn achosi problemau sbwriel. Mewn llythyr i'r Western Mail yn 2014, ymosododd Mr Bennett ar y Gymraeg a chyhuddodd pobl sy'n ymgyrchu dros agor meithrinfeydd Cymraeg o fod yn 'wirioniaid'. Ac yn eu maniffesto etholiadol, dadleuon nhw dros gwtogi cyfathrebu â'r cyhoedd yn Gymraeg ar sail cost. Mae sylwadau Neil Hamilton am fenywod, yn ei araith gyntaf gerbron y Cynulliad, yn cadarnhau bod rhagfarn yn rhemp yn ei blaid ac yn rhan o'i phrif-ffrwd ideolegol.

Byddai rhywun yn gobeithio y byddai nifer o'r bobl hyn yn cael eu dad-ddethol fel ymgeiswyr, ond yn hytrach na hynny, mae rhai wedi eu hethol i'n Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r blaid yn un ragfarnllyd yn ei hanfod, ac felly'n cynrychioli bygythiad i gydraddoldeb o bob math yn ein cymdeithas. Allwn ni ddim cydweithio â nhw.

Rydyn ni, fel mudiad, yn credu mewn creu cymdeithas gynhwysol, sy'n croesawu pobl i'n gwlad waeth beth eu cefndir o ran iaith, cyfeiriadedd rhywiol neu genedligrwydd. Dylai'r Gymraeg a Chymru gynnwys a chroesawu pawb sy'n dod i'n gwlad. Rwy'n gofyn i bob mudiad yng nghymdeithas sifil ein gwlad wneud safiad tebyg yn erbyn UKIP er mwyn creu cymdeithas gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth.

I'r rhai sy'n cwestiynu a yw hyn yn fater i grŵp sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg, rwy'n dweud yn ddi-flewyn-ar-dafod ei fod yn fater i ni oll. Allwn ni ddim gwahanu hawliau i'r Gymraeg o'r frwydr ehangach dros gyfiawnder ym mhob agwedd ar fywyd. Mae UKIP yn bygwth y gymdeithas gydradd rydyn ni am ei gweld yn ein gwlad.

Byddwn ni felly yn cyfathrebu a chysylltu â'r pedair plaid arall yn y Cynulliad er mwyn sicrhau Cymru lle mae popeth yn Gymraeg, ond gan sylweddoli hefyd nad oes modd gwahanu'r ymgyrch dros y Gymraeg o frwydrau ehangach eraill dros gyfiawnder. Ie, rydym am weld Cymru Gymraeg, ond hefyd gwlad sy'n sefyll yn gadarn fel cymdeithas gynhwysol nad yw'n goddef camwahaniaethu yn erbyn pobl o gefndiroedd eraill sy'n wynebu anghyfiawnder yn llawer iawn rhy aml.

Jamie Bevan,

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg