1af Rhagfyr 2014. Nid Bygythiad ond Gwrthod Cydymffurfio â Threfn Anghyfiawn.
Cefnogwch yr ymgyrch trwy lenwi'r ffurflen yma.
Mae hanes cwmni Morrisons â’r Gymraeg yn mynd nôl tipyn o beth erbyn hyn.
Dechreuodd aelodau’r Gymdeithas drafodaethau gyda’r cwmni ynglŷn â’i ddarpariaeth trwy’r Gymraeg yn ystod y 00au, ac er bod y sgwrs bryd hynny yn un bositif iawn, cefnu ar eu haddewidion wnaeth Morrisons.
Aeth pethau’n dawel am sbel wrth i flaenoriaethau eraill gymryd sylw’r Gymdeithas, a bu raid i gwsmeriaid Cymru fodloni ar ambell arwydd ddwyieithog yma ac acw yn eu siopau.
Ffrwydrodd y drafodaeth unwaith yn rhagor sawl mis yn ôl erbyn hyn, pan wrthododd staff Morrisons drin presgripsiwn oedd wedi’i sgwennu yn uniaith Gymraeg. Fel dy’ ni gyd yn ymwybodol erbyn hyn achosodd hyn gryn bryder a thrafferth i’r teulu Mann a oedd ar y pryd yn cael eu rhwystro rhag derbyn meddyginiaeth i’w plentyn oherwydd nad oedd systemau Morrisons yn gallu ymdrin â’r Gymraeg yn yr un ffordd yr oedd yn ymdrin â’r Saesneg.
Yn ogystal â chynnal rali fawr tu allan i’r siop ym Mangor, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at y cwmni gan fynnu cyfarfod i drafod mater y presgripsiwn a nodi nifer o alwadau elfennol eraill fyddai’n sicrhau tegwch i’r Gymraeg a’i gwsmeriaid yng Nghymru.
Wedi misoedd o lusgo traed mae Morrisons wedi cytuno i gwrdd ag aelodau’r Gymdeithas. Wrth i hwn gael ei ysgrifennu mae’r Grŵp Hawliau, unwaith eto, wedi cychwyn trafodaethau gyda’r cwmni i sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg.
Ond cytunwn na allwn ni barhau i dderbyn addewidion dros gyfnod o fisoedd a blynyddoedd ac unwaith eto cael cynnig briwsion. Tra bod y trafodaethau yn parhau fe fydd y Gymdeithas yn paratoi ar gyfer boicot cenedlaethol o’r cwmni fydd yn cychwyn ar Ragfyr 1af 2014. Bydd y paratoi yn cynnwys addysgu a lledaenu’r neges ac fe fyddwn yn bwrw ati i gasglu enwau’r rheini fydd yn ymrwymo i’r boicot ym mis Rhagfyr pe bai Morrisons yn penderfynu bwrw ‘mlaen gyda’i pholisïau presennol o gamwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg
Pam Boicot?
Cefnogwch yr ymgyrch trwy lenwi'r ffurflen yma.
Pwrpas y boicot arfaethedig yn blwmp ac yn blaen yw gwrthod cydymffurfio’n bellach gyda chwmni sydd yn gwneud elw mawr yng Nghymru, ond sydd yn gwrthod trin yr iaith Gymraeg yn deg.
Pwysleisiwn nad bygwth yw’r bwriad, nid taro traed ar y llawr mewn dicter neu daflu teganau o’r pram, ond penderfyniad syml i wrthod ymroi i system gyfalafol sy’n gwrthod trin dinasyddion Cymru gyda pharch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae parhau i roi ein harian i gwmni Morrisons gyfystyr â chyfiawnhau ac esgusodi ei ymddygiad di-hid tuag at ein priod iaith genedlaethol. Mae parhau i gyd-fynd a chydweithio gyda’i anghyfiawnder cyn waethed â phe taswn ni ein hunain wrth y llyw.
Bydd paratoadau’r boicot dros y misoedd nesaf yn helpu swyddogion y cwmni ystyried o ddifri’r ffordd maen nhw’n gweithredu yng Nghymru ac yn eu hannog i ail-ystyried eu polisïau er tegwch i’r Gymraeg. Pe byddai hyn wirioneddol yn digwydd byddai dim angen am foicot - byddai’n egnïon cyfansawdd wedi llwyddo i droi calonnau a phennau swyddogion nad oeddynt erioed, efallai, wedi talu llawn ystyriaeth i sefyllfa ieithyddol Cymru.
Pam Morrisons? Mae pob archfarchnad ar fai.
Cefnogwch yr ymgyrch trwy lenwi'r ffurflen yma.
Cytunwn fod angen i bob archfarchnad a chwmni mawr yng Nghymru weithredu polisïau o blaid y Gymraeg. Ond gallwn gytuno hefyd na allwn wasgaru ein hegnïon i bob cyfeiriad a pharhau i
fod yn effeithiol. Fel y nodwyd uchod mae trafodaethau wedi bod ers rhai blynyddoedd gyda Morrisons ond tynnu nôl ar eu gair wna’r cwmni bob tro.
Mae’r digwyddiad gyda’r presgripsiwn yn ddiweddar hefyd wedi amlygu Morrisons fel cwmni sydd ddim am drin cwsmeriaid Cymru â pharch na thegwch (does dim ymddiheuriad clir, uniongyrchol, wedi dod gan y cwmni yn sgil y digwyddiad hynny).
Cydnabyddwn fod nifer o’n haelodau yn ymwrthod ag archfarchnadoedd yn llwyr yn barod oherwydd y niwed cymunedol ac economaidd maent yn ei achosi yn lleol ac yn fyd-eang. Ni fydd ymrwymo i’r boicot arfaethedig yn broblem iddyn nhw felly.
Ond beth am y Llywodraeth a Dulliau Lobïo?
Cefnogwch yr ymgyrch trwy lenwi'r ffurflen yma.
Mae’n wir fod gan y Llywodraeth rôl fawr i chwarae wrth sicrhau gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru, ond mae’r Llywodraeth wedi dangos nad ydynt yn awyddus i daclo’r sector breifat.
Mae hwn wedi amlygu ei hun ym Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 lle gwrthododd ein harweinwyr yn y Bae gynnwys cwmnïau mawrion megis Morrisons. Ni fydd y safonau iaith arfaethedig yn effeithio ar y cwmnïau enfawr sydd yn gwneud miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae rhai o’r dadleuon dros beidio â thaclo’r cwmnïau mawr cyfalafol yn chwerthinllyd a dweud y lleiaf. Ydyn ni wir fod credu y byddai Morrisons yn gadael Cymru petaen nhw’n cael eu gorfodi gan ddeddfwriaeth i roi chwarae teg i’r Gymraeg? O ddifri? Fyddai pob cwmni mawr yn gadael Cymru? Dim o gwbl. Byddai’r gost o gynnig gwasanaethau cyflawn yn y Gymraeg yn geiniogau o’i gymharu â’r elw enfawr sy’n cael ei wneud bob dydd yng Nghymru.
Wrth gwrs bydd y Gymdeithas yn parhau i lobïo a thrafod a phwyso ar y Llywodraeth i weithredu yn y maes yma ond bellach mae’n hollol amlwg na allwn ddibynnu ar ein gwleidyddion i sicrhau cyfiawnder yn y maes. Mae’n rhaid i ni rywsut gymryd y pŵer yn ôl i’n dwylo ni wrth barhau i bwyso ar y system ddatganoledig i borthi ein chwant am gyfiawnder.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Cefnogwch yr ymgyrch trwy lenwi'r ffurflen yma.
Fe fydd swyddogion y Grŵp Hawliau yn cwrdd ag Uwch Swyddogion Morrisons ac yn trafod ein galwadau fel y mynegwyd mewn llythyr i’r cwmni yn gynharach yn y flwyddyn (ac fel y nodir isod). Yn y cyfamser gosodwyd Rhagfyr 1af 2014 fel dyddiad cychwyn y boicot cenedlaethol ac fe fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â rhwydwaith eang yng Nghymru er mwyn casglu enwau’r cyhoedd fydd yn barod i ymwrthod â gwasanaethau Morrisons pe bai angen o’r dyddiad penodedig. Fe fydd trafodaeth yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym Mis Hydref i drafod y sefyllfa ac i benderfynu bwrw ‘mlaen gyda chychwyn y boicot neu beidio (yn seiliedig ar weithredoedd Morrisons dros y misoedd nesaf).
Be ydyn ni eisiau?
Cefnogwch yr ymgyrch trwy lenwi'r ffurflen yma.
- sicrhau bod pob arwydd yn eu siopau yng Nghymru yn ddwyieithog. (Nodwn gyda chryn bryder, fod arwyddion uniaith Saesneg wedi cael eu gosod yn siop Bangor ers ei hadnewyddu, a rheini yn lle’r rhai dwyieithog fel yr oeddent cynt)
- tiliau hunan wasanaeth dwyieithog
- Polisi Cyflogaeth ac Ymgyrch Recriwtio fydd yn sicrhau digon o staff sy’n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg ym mhob siop yng Nghymru
- labeli dwyieithog clir ar holl gynnyrch brand Morrisons
- deunydd hyrwyddo a marchnata dwyieithog (e.e. taflenni, hysbysebion, arwyddion dros dro)
- cyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog yn holl siopau Cymru