Gair o'r Gadair - eich cyfle i arwain y Gymdeithas

Hoffech chi gyfrannu at waith Cymdeithas yr Iaith, neu newid y ffordd ry’n ni’n gweithio? Os felly, llenwch y ffurflen hwn - mae manylion yr holl swyddi sydd ar gael ar ein Senedd yno 
hefyd. Chi, aelodau’r Gymdeithas, fydd yn dewis pwy sy’n derbyn y swyddi hyn yn ein cyfarfod cyffredinol ym Mhwllheli ar Hydref 4ydd. Ewch amdani!
 
gweld

Pwy sydd eisiau darparwr cyfryngol newydd i Gymru?

Fe fyddai unrhyw ddyfodol sydd yn cynnwys bywyd ffyniannus i’r Gymraeg yn cynnwys cyfryngau amrywiol cryf. Rydym yn byw mewn oes lle mae cyfryngau ar-lein trwy’r Gymraeg yn hanfodol yn ogystal â radio, teledu a phrint. Ond mae ymchwil gan y BBC yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn treulio dim ond 1% o’u hamser ar-lein ar gynnwys yn Gymraeg o unrhyw fath (Ffynhonnell: Siân Gwynedd, Cynhadledd NPLD, mis Rhagfyr 2011).

gweld

Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – y ffordd ymlaen

Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei hymateb i “Ddrafft Bil Cynllunio” Llywodraeth Cymru. Nid yw’r drafft yma yn cyfeirio o gwbl at y Gymraeg. Os na newidir y drafft yma ni fydd modd gwrthod na chaniatau datblygiad oherwydd yr effaith ar y Gymraeg. Yn sgîl cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion, Aelodau Cynulliad o bob plaid, swyddogion cynllunio a chynghorwyr rydym wedi penderfynu bod angen dangos i’n gwleidyddion beth sydd yn bosib.

gweld

Safonau iaith - Cam yn ôl?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith newydd ers y flwyddyn 2000. Pwy a ŵyr faint o ymgynghoriadau, protestiadau a chyfarfodydd rydyn ni wedi eu cynnal yn ystod yr amser yna er mwyn cael y maen i’r wal.

gweld

Byw yn Gymraeg? Diffygion y System Gynllunio

Blwyddyn yn ôl cyhoeddwyd ystadegau'r cyfrifiad am y Gymraeg. O'r holl ystadegau a gafwyd ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol ac ar lefel gymuned yr ystadegau mwyaf trawiadol yn fy marn i, oedd y cyhoeddiad am y nifer o gymunedau Cymraeg. Mae'r nifer o gymunedau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng o 92 yn 1991, i 54 yn 2001, ac i 39 yn 2011. Un canlyniad yw bod canran o siaradwyr Cymraeg wedi disgyn o dan 50% yng Ngheredigion ac i 43.9% yn Sir Gaerfyrddin. Os nad yw hyn yn fater o bryder beth sydd.

gweld

Addysg cyfrwng Cymraeg i bawb - allwedd i dwf yr iaith

Beth bynnag yw eich barn bersonol ar ddysgu Cymraeg fel ail iaith i blant, nid oes modd gwadu bod y status quo yn aneffeithiol ac annerbyniol. Nid yn unig oherwydd bod tros 75% o’n plant yn cael eu hamddifadu o'r gallu i siarad yr iaith yn rhugl, ond hefyd oherwydd bod y gyfundrefn addysg yn ceisio sicrhau bod pob un disgybl yn rhugl, ond yn methu’n llwyr i gyflawni’r nod. Felly, mae gennym gyfundrefn sydd yn anelu at nod clodwiw iawn, ond nid yw hi’n gweithio. Dyna pam mae consensws ymysg addysgwyr ac yn drawsbleidiol dros newidiadau

gweld

Gair o'r Gadair

Mae chwe mis bellach ers cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 2011. Ers chwe mis felly, mae wedi bod yn amlwg bod angen ymateb brys er mwyn gwyrdroi’r dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg, ymateb brys fel yr hyn rydym yn ei awgrymu yn y Maniffesto Byw a gyhoeddon ni gyntaf fis Rhagfyr. Yn anffodus, nid yw’r Llywodraeth wedi newid polisïau cynllunio ac addysg er lles y Gymraeg, defnyddio’r Safonau Iaith i sicrhau hawl i wasanaethau Cymraeg, na chreu swyddi lle mae eu hangen yn ein cymunedau.

gweld

Tynged yr Iaith, yn nwylo Leighton Andrews?

Yn nwylo Leighton Andrews mae un o’r penderfyniad pwysicaf a fydd yn llywio
tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy. Mae'r safonau iaith newydd
yn offeryn statudol fydd yn llywio holl ddarpariaeth Gymraeg cyrff a chwmnïau ac
maent yn hollbwysig i obeithion pawb yng Nghymru i sicrhau twf yn yr iaith.

Mae llawer iawn yn y fantol.

Gall y safonau sicrhau pethau cwbl sylfaenol, fel bod plant yn gallu cael gwersi

gweld

Dadansoddi'r Cyfrifiad: Toni Schiavone

Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos na chyflawnwyd dau o brif amcanion Iaith Pawb (2003): bu gostyngiad nid yn unig yn y canran o siaradwyr Cymraeg o 21% i 19%, ond hefyd yn y nifer o wardiau gyda thros 70% yn medru'r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 2,000 i 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.

Mae angen cynllun brys mewn lle er mwyn adfer hyder pobl Cymru yng ngallu Llywodraeth Cymru i ddiogelu ac i adfywio'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru. Y cam cyntaf yw cydnabod yr argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru.

gweld

Safonau iaith - Cam yn ôl?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith newydd ers y flwyddyn 2000. Pwy a ŵyr faint o ymgynghoriadau, protestiadau a chyfarfodydd rydyn ni wedi eu cynnal yn ystod yr amser yna er mwyn cael y maen i’r wal. darllen mwy...

Byw yn Gymraeg? Diffygion y System Gynllunio

Blwyddyn yn ôl cyhoeddwyd ystadegau'r cyfrifiad am y Gymraeg. O'r holl ystadegau a gafwyd ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol ac ar lefel gymuned yr ystadegau mwyaf trawiadol yn fy marn i, oedd y cyhoeddiad am y nifer o... darllen mwy...

Gair o'r Gadair

Mae chwe mis bellach ers cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 2011. Ers chwe mis felly, mae wedi bod yn amlwg bod angen ymateb brys er mwyn gwyrdroi’r dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg, ymateb brys fel yr hyn rydym yn ei awgrymu yn y... darllen mwy...

Tynged yr Iaith, yn nwylo Leighton Andrews?

Yn nwylo Leighton Andrews mae un o’r penderfyniad pwysicaf a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy. Mae'r safonau iaith newydd yn offeryn statudol fydd yn llywio holl ddarpariaeth Gymraeg cyrff a... darllen mwy...

Dadansoddi'r Cyfrifiad: Toni Schiavone

Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos na chyflawnwyd dau o brif amcanion Iaith Pawb (2003): bu gostyngiad nid yn unig yn y canran o siaradwyr Cymraeg o 21% i 19%, ond hefyd yn y nifer o wardiau gyda thros 70% yn medru'r iaith. Yn... darllen mwy...