Ddiwedd Tachwedd bu Angharad Tomos yn siarad yng Nghynhadledd y RIC yn Glasgow.
“Welcome, to the People’s Republic of Glasgow!”
Roedd cael bod ymysg y 3,000 yn Glasgow yng Nghynhadledd y Radical Independence yn brofiad a hanner. Yn yr adeilad dros y ffordd, roedd 12,000 yn gwrando ar Nicola Sturgeon. Mae 92,000 yn aelodau o’r SNP bellach. Oes, mae rhywbeth mawr yn digwydd yn yr Alban. Siarad ar ran Cymdeithas yr Iaith oeddwn i, gan rannu llwyfan gyda Bernadette McAliskey, a gynrychiolai Iwerddon. Rhaid dweud mai o Gymru y daeth unrhyw gyfraniad am iaith ar wahân i’r Saesneg. Ond Radical Independence yw’r mudiad tebycaf i’r Gymdeithas yn yr Alban. Clymblaid o Sosialwyr ydynt, Gwyrddion, undebwyr, cenedlaetholwyr, a phobl ifanc, ddaeth ynghyd ddwy flynedd yn ôl i ystyried sut fath o wlad oedden nhw am i Alban annibynnol fod.
Nodwedd amlycaf y gynhadledd oedd angerdd a gwylltineb. Gwylltineb tuag at y Blaid Lafur yn bennaf, ac at San Steffan. Mae yna deimladau cryf iawn oherwydd yr anghyfartaledd dychrynllyd sy’n bodoli efo’r 5 teulu cyfoethocaf ym Mhrydain yn berchen mwy na’r 12 miliwn tlotaf. Roedd yna ddicter ymysg yr ifanc hefyd, rhai dan 18 a gafodd bleidleisio yn y Refferendwm, ond na chaiff bleidleisio yn yr etholiad fis Mai.
Nododd sawl un nad oedd eu syniadau mor radical â hynny. Y cwbl maent yn ei ofyn amdano yw tai teg, gwasanaeth iechyd safonol, cyflog sylfaenol, bwyd a gwres, gan alw ar bobl i beidio lladd ei gilydd. Beth sy’n eithafol am hynny?
Yr hyn sy’n dda yw eu bod mor frwd ag erioed, ac yn barod i ddal ati. Llundain sydd mewn trafferth. Mae yna ddiffyg syniadau, diffyg democratiaeth ac mae twyll ariannol yn rhemp. Mae Prydain yn wynebu argyfwng ar sawl ochr. Mae’n argyfwng hanesyddol a democrataidd a dydi’r drefn bresennol ddim yn gweithio. Un ateb yw llenwi’r gofod efo casineb at fewnfudwyr, a chwifio Jac yr Undeb, fel y gwna UKIP.
Ateb arall yw yr un sosialaidd. Mae gennym ni yng Nghymru lawer i’w ddysgu ganddynt. Mae angen inni gynghreirio gyda sosialwyr a grwpiau ar y Chwith i holi sut fath o Gymru ydym ni eisiau ei gweld. I raddau, mae’n digwydd yn naturiol, mae gennym gyfeillion yn yr ymgyrchoedd gwrth niwclear, yr ymgyrchoedd ffracio, ymgyrchoedd rhyngwladol, yr ymgyrch yn erbyn toriadau, ac mae y rhain yn eu tro yn ymuno yn ralïau ac ymgyrchoedd y Gymdeithas. Ond da fyddai cael trefniant mwy ffurfiol ar y Chwith yng Nghymru fel y gallwn osod y seiliau ar gyfer ymgyrch gref dros annibyniaeth. Ac wrth gwrs, rhaid closio at yr Alban a dal ati i rannu y weledigaeth fawr!