Cyfarfod Cyffredinol 2024

05/10/2024 - 10:30

Cyfarfod Cyffredinol 2023

10:30yb, dydd Sadwrn, 5 Hydref 2024
Neuadd Rhydypennau, Bow Street  ac arlein

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein Cyfarfod Cyffredinol eleni. Mae croeso i bawb yn ein Cyfarfod Cyffredinol ond dim ond aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio. Gallwch ddarllen y cynigion bydd yn cael eu trafod yma.

Mae Neuadd Rhydypennau ym mhentref Bow Street ble mae Gorsaf Drenau a digon o fysys yn mynd trwy'r pentref.

Cofiwch roi gwybod erbyn 30 Medi os ydych yn dod, er mwyn i ni sicrhau bod digon o gopïau o'r dogfennau ar gael. Ni fyddwn yn darparu cinio.

Dyma yw penwythnos Gŵyl Gomedi Aberystwyth felly mae'n esgus da am benwythnos yn Aber!

Ein gobaith yw y bydd cymaint o bobl â phosibl yn ymuno â ni yn Neuadd Rhydypennau. Os yw hynny'n amhosibl, mae croeso i chi ymuno dros Zoom. Cysylltwch am ddolen.

Yn dilyn y cyfarfod am 2.30 bydd trafodaeth agored Comisiwn Cymunedau Cymraeg – Cyfle i Rymuso Cymunedau. Manylion pellach yma.

Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Mae swyddogion y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gall aelod wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

  • Gallwch ddarllen y Polisi Treuliau yn llawn yma.