24/05/2018 - 19:30
Bydd cyfarfod agored ar nos Iau y 24 o Fai am 7.30yh yn Neuadd Talwrn i drafod y bygythiad i Ysgolion cynradd yn Sir Fôn.
Croeso i bawb ar draws yr ynys er mwyn dod at ein gilydd a ffurfio ffrynt unedig yn erbyn y bygythiad parhaus i'r ysgolion o dy'r cyngor.
Bydd angen help i hyrwyddo'r cyfarfod brys yma - os allwch helpu gwneud hyn ewch amdani. Am adnoddau fel taflenni cysylltwch â gogledd@cymdeithas.cymru