Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Rhagfyr)

07/12/2019 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr

Y Pengwern, Llan Ffestiniog (LL41 4PB)

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion, gyda gwahanol gyfrifoldebau, i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma: http://cymdeithas.cymru/y-senedd

Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio)  a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Rhagfyr a bydd yn canolbwyntio ar agweddau gweinyddol o waith y Gymdeithas.

Am 3.30, bydd sgwrs am ymgyrchu dros heddwch, ac yna byddwn yn dathlu'r Nadolig gyda'n gilydd dros ginio yn y Pengwern (5.30). Croeso mawr i chi ymuno â ni – cysylltwch am wybodaeth bellach.

Noder hefyd:

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Os hoffech fynychu cyfarfod, cysylltwch i weld a oes rhywun arall yn dod o'r un cyfeiriad â chi er mwyn i chi rannu car.

  • Trefnir cinio syml yn ystod cyfarfodydd y Senedd – croesewir cyfraniadau yn ôl gallu'r unigolyn i dalu.