02/04/2019 - 12:30
Cyrraedd y Miliwn o Siaradwyr: Addysg Gymraeg i Bawb
12:30yp, dydd Mawrth, 2il Ebrill
Ystafell Briffio'r Cyfryngau, Y Senedd, Bae Caerdydd
Siaradwyr: Gareth Pierce (cyn-Brif Weithredwr CBAC), Rebecca Williams (UCAC) a Mabli Siriol (Cymdeithas)
Dewch i drafod blaenoriaethau ym maes addysg er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cymhwyster TGAU Cymraeg Iaith i bob disgybl yn dilyn cadarnhad y Llywodraeth eu bod yn sefydlu un continwwm o ddysgu'r iaith.
Er mwyn cadw lle yn y digwyddiad, e-bostiwch colin@cymdeithas.cymru os gwelwch yn dda.