Eisteddfod yr Urdd - Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg: Ble mae'r cyfleoedd?

30/05/2019 - 14:00
Lleoliad: Ystafell Siapan, Canolfan y Mileniwm
Siaradwyr: Toni Schiavone, Branwen Cennard ac eraill
 
Cynhelir y drafodaeth hon gan fod diffyg difrifol o brentisiaethau cyfrwng y Gymraeg gyda ffigyrau yn dangos taw dim ond 0.3% o brentisiaethau sy'n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithiwn drafod y rhesymau dros y diffyg yma a pha gamau sydd angen eu cymryd i wella'r sefyllfa. Gobeithiwn glywed gan bobl ifanc sydd wedi elwa o brentisiaethau Cymraeg, ynghyd â chynrychiolwyr o'r byd busnes sy'n eiddgar i ddarparu cyfleoedd i weithio a datblygu sgiliau yn y Gymraeg.