Cyfarfod o'r Grŵp Addysg

10/03/2025 - 12:00

Bydd cyfarfod nesa' Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith am ganol dydd, dydd Llun, 10 Mawrth yn Nhŷ'r Cymry, Heol Gordon, Caerdydd.

Byddwn yn parhau â'r gwaith ar yr ymgyrch Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn ogystal â thrafod rhai materion perthnasol eraill.

Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd o blith aelodau'r Gymdeithas, felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.

Ac os nad ydych yn siwr, pam na ddewch chi i'r cyfarfod er mwyn cael blas ar y trafodaethau.

Ebostiwch post@cymdeithas.cymru er mwyn i ni eich ychwanegu at y grŵp.