Gigs Eisteddfod Wrecsam

Eleni bydd wythnos gyfan o gigs gyda ni yn Saith Seren a thair noson arbennig yn Neuadd William Aston a noson Bragdy'r Beirdd yng Nghlwb Chwaraeon Brymbo. Mae'r holl docynnau ar werth yn ein siop arlein (bydd tocynnau William Aston ar werth yno o 13 Mai): siop.cymdeithas.cymru/cynnyrch/gigs ac mae tocynnau Saith Seren a Bragdy'r Beirdd hefyd ar gael o Siop Siwan yn Tŷ Pawb ac o Saith Seren ei hun.

Gigs Saith Seren

(18 Stryd Caer, Wrecsam LL13 8BG)

Y Saith Seren yw'r ganolfan Gymraeg yng nghanol Wrecsam a sefydlwyd o ganlyniad i ymweliad diwethaf y Steddfod â'r dre. Dyma gartre Cymdeithas yr Iaith am yr wythnos, a chanolfan werin yr ŵyl. Dowch i roi hwb i'r ganolfan Gymraeg hon; a chofiwch mai ond lle i 125 sydd.

Nos Sadwrn Awst 2  Parti 20mlwyddiant Gwibdaith Hen Fran gyda'r aelodau gwreiddiol
Gwibdaith Hen Fran
Mynadd
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/gwibdaith-hen-fran

Nos Sul Awst 3
Gwilym Bowen Rhys
Cass Meurig         
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/gwil-bow-rhys

Nos Lun Awst 4
Geraint Lovgreen
Andy Hickie
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/lovgreen

Nos Fawrth Awst 5
Gai Toms
Paid Gofyn
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/gai-toms

Nos Fercher Awst 6 Noson Heddwch ar Ddydd Hiroshima
Moniars
Hen Fegin
Elan Parry
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/noson-heddwch

Nos Iau Awst 7
Pedair
Cadi Glwys
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/pedair
  
Nos Wener Awst 8  Noson Gomedi            
Hywel Pitts yn cyflwyno:
Dil Pierce
Dil Morgan
Fflur Pierce
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/noson-gomedi

Nos Sadwrn Awst 9
Huw Aye Rebals
Yr Anghysur
£15 - siop.cymdeithas.cymru/siop/noson-ffarwel

Bragdy'r Beirdd: “Helo Brymbo” – Nos Fawrth Awst 5 – 8.00-12.30
Ifor ap Glyn yn cyflwyno noson o gerddi a chaneuon i ddathlu Wrecsam a'r Fro

Clwb Chwaraeon Brymbo LL11 5TG

Bydd enwau'r llu o feirdd fydd yn cymryd rhan yn cael eu cyhoeddi wrth i ni agosáu at y Steddfod.

Bydd byrddau dull cabaret mewn stafell fawr foethus mewn canolfan a fu’n gartref i’r gweithwyr dur ers degawdau. Bydd prydau o fwyd ar gael a sawl cwrt sboncen a thenis os ydych am ddod yn gynnar ac yn gêm!

Mae Clwb Chwaraeon Brymbo rhyw ddwy filltir i'r gogledd o ganol Wrecsam. Mae bysiau gwasanaeth rheolaidd rhwng y dre a Brymbo, a byddwn ni’n trefnu bysiau yn ôl at y Maes Carafanau ar ddiwedd y noson. Mae maes parcio mawr ar y safle.

Mae’r tocynnau yn £15 ac ar gael ar ein gwefan, siop.cymdeithas.cymru/siop/bragdy-beirdd (neu yn lleol o Siop Siwan yn Tŷ Pawb ac o Saith Seren).

Neuadd William Aston

(https://williamastonwrexham.com/cy/visit/access)

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio gyda Theatr Clwyd i gyflwyno tair noson fawr yn y neuadd hon sy'n dal dros 800 gyda bar a stondinau yn y cyntedd. Prynwch docynnau rwan i ddewis  y seddau gorau yn y neuadd. Mae mil o lefydd parcio ar y safle hwn o Brifysgol Wrecsam, a bydd bws ar ddiwedd y nosweithiau'n mynd yn ôl at y Maes Carafanau.

Noson y Wal Goch  nos Iau Awst 7

Tara Bandito
Yws Gwynedd
Candelas
Celavi

Bydd Lili Jones yn cyflwyno, a chyfle hel llofnodion y selebs pêl-droed fydd yn y noson.

Tocynnau'n £19 o https://williamastonwrexham.com/cy/event/walgoch

Nos Wener Awst 8

i'w gyhoeddi'n fuan!

Parti Cloi yr Eisteddfod  nos Sadwrn Awst 9

Bob Delyn
MR
Blodau Papur

Tocynnau'n £19 o https://williamastonwrexham.com/cy/event/particloi