Grŵp Codi Arian

02/11/2023 - 19:00

Mae Grŵp Codi Arian y Gymdeithas yn cyfarfod dros Zoom am 7.00, nos Iau, 2 Tachwedd i symud ymlaen â'r gwaith o drefnu gweithgarwch codi arian y Gymdeithas dros y flwyddyn nesaf.

Mae'r grŵp yn gyfrifol am faterion aelodaeth, nwyddau, digwyddiadau a phob math arall o weithgarwch i greu incwm i'r Gymdeithas.

Os ydych chi'n aelod o'r Gymdeithas ac efo syniadau am ffyrdd o greu incwm, pam na wnewch chi ymuno â'r grŵp? Ac os nad ydych yn siwr, dewch i'r cyfarfod i weld beth yw beth a phenderfynu wedyn a ydych am ymuno ai peidio!

Am fanylion pellach, cysylltwch â: post@cymdeithas.cymru