26/06/2023 - 18:00
Mae Grŵp Codi Arian y Gymdeithas yn cyfarfod dros Zoom am 6.30, nos Lun, 26 Mehefin i symud ymlaen â'r gwaith o drefnu gweithgarwch codi arian y Gymdeithas dros y flwyddyn nesaf.
Mae'r grŵp yn gyfrifol am faterion aelodaeth, nwyddau, digwyddiadau a phob math arall o weithgarwch i greu incwm i'r Gymdeithas.
Rydym bob amser yn croesawu aelodau newydd i ymuno â'r grŵp hwn, felly os oes efo chi ddiddordeb neu arbenigedd yn y maes, cysylltwch: post@cymdeithas.cymru. Os nad ydych yn siwr, dewch i'r cyfarfod i weld beth yw beth a phenderfynu wedyn a ydych am ymuno ai peidio!