01/04/2023 - 10:15
Cyfarfod cyhoeddus sy'n edrych ymlaen at y Gymru Rydd Werdd Gymraeg.
10.15-5.30, dydd Sadwrn, 1 Ebrill 2023
Neuadd Llanrhystud, Ceredigion
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu'r diwrnod hwn er mwyn trafod a rhannu syniadau ar sut gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd at Gymru Rydd, Werdd. Gymraeg.
Mae'r diwrnod yn agored i bawb ac yn cynnwys sesiynau ar:
- Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: trafodaeth ar y maniffesto trwy brism ymateb i'r Cyfrifiad (dan arweiniad Mabli Siriol)
-
Protestio: gwybod eich hawliau (dan arweiniad Bethan Ruth)
- Hawliau Iaith: cyfle i werthuso’n hawliau iaith a thrafod camau nesaf ein hymgyrchu (dan arweiniad Sian Howys a Gwerfyl Roberts)
Noder na fyddwn yn darparu cinio ond mae llefydd yn y pentref ble gallwch brynu bwyd, gan gynnwys Stordy'r Wyre.
Mae'r diwrnod yn rhan o benwythnos breswyl i aelodau felly os ydych yn aelod, cliciwch yma i gael manylion pellach am y penwythnos.
Am unrhyw wybodaeth arall, ebostiwch post@cymdeithas.cymru