01/04/2023 - 10:15
Cyfarfod cyhoeddus sy'n edrych ymlaen at y Gymru Rydd Werdd Gymraeg.
10.15-4.15, dydd Sadwrn, 1 Ebrill 2023
Neuadd Llanrhystud, Ceredigion
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu'r diwrnod hwn er mwyn trafod a rhannu syniadau ar sut gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd at Gymru Rydd, Werdd. Gymraeg.
Mae'r diwrnod yn agored i bawb. Nodir y sesiynau isod:
- 10:30 – Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: trafodaeth ar y maniffesto trwy brism ymateb i'r Cyfrifiad (dan arweiniad Mabli Siriol)
- 13:30 – Ein hawl i brotestio (dan arweiniad Bethan Ruth)
- 14:45 – Hawliau iaith: cyfle i werthuso'n hawliau iaith a thrafod camau nesaf ein hymgyrchu (dan arweiniad Sian Howys a Gwerfyl Roberts)
- 16:15 – Gorffen.
Noder na fyddwn yn darparu cinio ond mae llefydd yn y pentref ble gallwch brynu bwyd, gan gynnwys Stordy'r Wyre.
Mae'r diwrnod yn rhan o benwythnos breswyl i aelodau felly os ydych yn aelod, cliciwch yma i gael manylion pellach am y penwythnos.
Am unrhyw wybodaeth arall, ebostiwch post@cymdeithas.cymru