Hwyl Fawr i Osian - Merthyr

13/11/2021 - 09:30

Dyma gymal olaf taith feics Osian Jones o Gaernarfon i Gaerdydd.

Dewch i ddymuno'n dda iddo ef a'r criw wrth iddynt adael Maes Parcio Soar, neu gallwch wneud cyfraniad ariannol yma (diolch!).

Mae croeso i chi ymuno ag Osian ar eich beic, neu deithio ar y tren i lawr i Gaerdydd ar gyfer y Rali Nid yw Cymru ar Werth sy'n cychwyn am 1.30 y tu allan i Senedd Cymru.