13/02/2016 - 13:00
Rali Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
Addysg Gymraeg i Bawb!
1pm, Dydd Sadwrn, 13eg Chwefror 2016
Tu allan i Lys y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3PG
Siaradwyr: Caryl Parry Jones, Kizzy Crawford, Jamie Bevan (Cymdeithas), Elaine Edwards (UCAC) ac eraill
Dyma gyfle i ddathlu'r Gymraeg a'i phwysigrwydd i bawb yn y wlad. Dewch i godi llais am ein hiaith genedlaethol cyn y gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban ac i roi'r Gymraeg ar yr agenda cyn etholiadau'r Cynulliad.
Dyma union leoliad y rali:
Os ydych chi'n dod mewn car, dyma fanylion am feysydd parcio yn y ddinas: