Seminar Addysg Gymraeg i Bawb
10:30yb, dydd Gwener, 4ydd Mai
Yr Hen Goleg, Aberystwyth
Siaradwyr: Aled Roberts (awdur adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg), Gareth Pierce (Prif Weithredwr CBAC), Elaine Edwards (Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC) ac eraill
Mae'r Llywodraeth yn sefydlu bwrdd annibynnol i gynghori ar newidiadau i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a'r fframwaith deddfwriaethol cysylltiedig. Yn ogystal, mae'r Ysgrifennydd Cabinet Addysg wedi ymrwymo i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ynghyd â newidiadau i'r gyfundrefn cynllunio'r gweithlu addysg.
Diben y seminar yw trafod a dod â chasgliadau ynghyd ynghylch: newidiadau i'r gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg; sefydlu a chyflwyno un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn lle Cymraeg ail iaith; a mesurau i gynllunio'r gweithlu.
Er mwyn cadw lle, ebostiwch post@cymdeithas.cymru neu 01970 624501
Darperir lluniaeth ac offer cyfieithu.
Rhagor o fanylion i ddilyn.