10.30, dydd Sadwrn, 14 Hydref 2023
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Ar ddechrau tymor newydd Senedd Cymdeithas yr Iaith, byddwn yn cyfarfod i drafod a llunio strategaeth blwyddyn ar gyfer yr amryw grwpiau ymgyrchu – addysg, cymunedau cynaliadwy, dyfodol digidol, hawl i'r Gymraeg, iechyd a lles.
Os ydych yn aelod sydd â diddordeb yn un o'r meysydd hyn ac yn awyddus i gyfrannu at y trafodaeth, dewch draw i'r cyfarfod!
Bydd cyfarfod o Senedd y Gymdeithas yn dilyn – Senedd Ymgychoedd fydd hon.
Mae gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). Noder yr isod hefyd.
Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Mae swyddogion cyflogedig (neu wirfoddol) y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.
-
Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.
-
Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.