Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal taith trwy gymunedau Cymru'n ystod y ddyddiau'n arwain at gynhadledd tai Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy’n Bosib yng Nghaerdydd ar Dachwedd 16.
Yn ystod Taith Deddf Eiddo byddwn ni'n galw gyda chymunedau sydd naill ai'n profi problemau'r drefn tai bresennol neu enghreifftiau o bethau sy'n digwydd yn lleol i rymuso cymunedau lleol.
Byddwn ni'n casglu tystiolaeth i'w ddangos yn ystod sesiwn agoriadol Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy’n Bosib.
DYDD GWENER 10/11
9.30 - CAERNARFON, ger cofeb Lloyd George ar Y Maes
gyda Hywel Williams AS ac Osian Jones
10.15 - DYFFRYN NANTLLE, Canolfan Hamdden Plas Silyn Penygroes
gyda Ben Gregory (Swyddog Cymunedol Grŵp Cynefin) ac Angharad Tomos.
Mae hon yn enghraifft o stad o dai cymdeithasol a adeiladwyd ar sail asesiad o anghenion lleol yn y gymuned
11.30 - Tafarn y Fic, LLITHFAEN
12.30 - NEFYN, Siop Siarad (ger Yr Heliwr)
Cyfle i glywed am yr ymdrechion i bwyso ar y Llywodraeth i reoli ail gartrefi a llety gwyliau i leihau'r rhwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag byw yn eu cymunedau, gyda Mared Llywelyn, Cadeirydd Cyngor Tref Nefyn.
14.00 - BOTWNNOG, Cae Capel
gyda Sion Williams, Cadeirydd Cyngor Cymuned Botwnnog a Sian Parri
Mae datblygiad o 18 tŷ i'w weinyddu gan Adra yn enghraifft o ddatblygiad lle NA bu asesiad cymunedol i benderfynu pa fath o ddatblygiad oedd ei eisiau.
Cyfle i glywed gan bobl leol am ddiffygion yr ymgynghoriad.
16.00 - BETHESDA, 33 High St
Cyfle i glywed gan Meleri Davies Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen am fentrau cymunedol lleol
DYDD SADWRN 11/11
09.30 - LLANSANNAN, Sgwar gyferbyn â'r siop
Trafod y broblem bod pobl iau yn gorfod gadael cymuned Gymraeg oherwydd methu cystadlu yn y farchnad dai agored gyda Mari Edwards
11.00 - TREFRIW – Sgwar gyferbyn â'r Felin
Sgyrsiau efo rhai sy'n poeni fod Trefriw yn colli tai a chartrefi e.e. trwy droi Llys Llywelyn yn Old Shop Holiday Flats fydd yn golygu bod rhes cyfan o dai wedi eu colli i'r gymuned leol.
13.30 - LLANGEFNI, Neuadd y Sir
gyda'r Cyng Arfon Wyn
14.00 - ABERFFRAW, Maes Parcio’r Traeth
Bydd cyfle i glywed pryderon am sefyllfa gosod tai cyngor i bobl o du allan i'r ardal sy'n dod i fyw mewn AirBnB am gyfnod cyn datgan eu bod yn ddi-gartre er mwyn i'r Cyngor orfod trefnu cartref iddynt
15.00 - GWALCHMAI, ger Cloc y Sgwar
DYDD LLUN 13/11
09.30 - BLAENAU FFESTINIOG, Cwmni Bro
Trafod datblygtiad tai dan arweiniad y gymuned leol gyda Ceri Cunnington a Gwenlli o Gwmni Bro
10.30 - LLAN FFFESTINIOG - Pengwern gyda Sel Wilias
Cyfle i glywed am fenter gydweithredol sy'n esiampl o rymuso cymunedau lleol.(Nod 7 Deddf Eiddo)
1pm - ABERYSTWYTH – Mynedfa Neuadd Pantycelyn
Trafod gobeithion pobl ifainc o fedru cael cartrefi i'w prynu neu rentu wedi gadael y coleg gyda myfyrwyr
4pm – CRYMYCH – Neuadd y Farchnad
Cyfle i glywed am ymddiriedolaeth tai cymunedol sy'n cael ei sefydlu i ddarparu tai i bobl leol, gyda phosibilrwydd o amod iaith, gyda Cris Tomos
DYDD MAWRTH 14/11
10.00 - PENPARC, Ystafell Berkeley (wrth y caeau pêl-droed)
Cyfle i glywed am ymddiriedolaeth tai cymunedol s'yn cael ei sefydlu gyda Cyng Clive Davies
13.00 - LLANDYSUL, Cilfan ar ochr ogleddol yr ysgol
Bydd Myfyrwyr Ysgol Bro Teifi a Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn sôn am eu pryderon o ran gallu cael cartrefi i aros mewn ardal Gymraeg.
16.00 - CAERFYRDDIN, Neuadd y Sir
Trafod yr hyn mae'r cyngor yn ei wneud gyda'r Cyng Ann Davies (portffolio Materion Gwledig y Cyngor Sir)
DYDD MERCHER 15/11
10.00 - ABERPENNAR, Bryncynon Strategy Ynysboeth
Cyfle i glywed am effaith cynnydd mewn rhent ar dlodi gan y banc bwyd lleol a'r Cyng Danny Grehan
13.00 - Y SENEDD, BAE CAERDYDD
Trafod problem boneddigeiddio'r Bae a'r problemau yn Nhre-Biwt yng nghysgod y Senedd gyda Mabli Siriol a llun gyda baner Deddf Eiddo gyda Mabon ap Gwynfor ac Aelodau eraill o'r Senedd
Dewch i drafod!
Am ragor o wybdoaeth cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru