Gydaír Cynulliad Cenedlaethol ar ei ail dymor, argymhellion Adroddiad ETAG ar Addysg Ùl 16 (1999) ar waith a chyfnod tyngedfenol cefogaeth Arian Amcan 1 yn prusur fynd rhagddo mae¼n amserol codi nifer o gwestiynau ynghylch perthnasedd yr addysg alwedigaethol sy¼n cael ei gynnig, effeithiolrwydd y fframwaith sydd yn ei ddarparu a gwir atebolrwydd y cyfan i gymunedau a chynulliad Cymru.
Byrdwn adroddiad ETAG oedd sefydlu trefn newydd o gydweithio a phartneriaeth fyddai¼n arwain at economi flaengar mewn Cymru Newydd dan ofalaeth y Cynulliad. Byddai Consortia Cymunedol o gynrychiolwyr Colegau, 6ed Dosbarth Ysgolion, Darparwyr Hyffordiant Preifat a¼r Sector Wirfoddol yn cael eu sefydlu i gynllunio strategaethau lleol. Byddai hefyd ddad-gwangoeiddio¼n digwydd drwy ddiddymu¼r TECS a¼r Cyngor Cyllido Addysg Bellach a sefydlu ELWA yn atebol i¼r Cynulliad ac yn cyd-weithio gyda sefydliadau eraill fel ACCAC a Gyrfa Cymru.
Ond collwyd cyfle i wedd-newid statws gyfansoddiadol Colegau Addysg Bellach. Bu rhain yn enghreifftiau o¼r cwangos perffaith, yn hunan enwebu i raddau helaeth, yn cael eu dominyddu gan wrywod hynafol, yn atebol i fawr o neb ac yn gweithredu y tu Ùl i ddrysau caedig. Fe¼u disgrifwyd fel Olodges masonig addysgiadol heb y regalia!
Nid yw¼n syndod bod y Sector Addysg Bellach ers ei hymgorfforaethu yn 1993 wedi ei bardduo gan achosion o gamweinyddu ariannol, cam-benodi, bwlio ac erlid swyddogion undeb - heb sÙn am ddiffyg Addysg Gymraeg! Mae gwir angen dod a¼r sector yn Ùl dan fantell democratiaeth leol a sicrhau iddynt yr un canllawiau ymddygiad, datgelu diddordebau a thryloywder ’¼r Cynulliad Cenedlaethol gan gynnwys croesawu¼r cyhoedd a¼r wasg i¼w cyfarfodydd a gorfodi Seiri Rhyddion i ddatgan eu haelodaeth. Maeír penderfyniad i drosglwyddo rheolaeth ar Addysg chweched dosbarth i ffwrdd o Awdurdoadau lleol democrataidd yn gwaethyguír sefyllfa. Cwyd y cwestiwn ñ Sut all addysg Ùl 16 hybu democratiaeth os nad ywín cael ei rheoliín ddemocrataidd ei hunan?
Er bod adroddiad ETAG yn gosod fframwaith sefydliadol cenedlaethol a rhanbarthol i weithredu addysg Ùl 16 a hynny yn bennaf er budd economaidd i Gymru, yn rhyfeddol, prin iawn oedd y cyfeirio at gynnwys yr addysg a'r hyfforddiant - sef y peth pwysicaf! Nid oedd unrhyw symudiad tuag sefydlu cwricwlwm galwedigaethol i Gymru wedi ei deilwrio i anghenion penodol economi Cymru.
Rhai o'r cwestiynau sy¼n deg eu codi ar hyn o bryd yw:
1. A allaiír meysydd llafur galwedigaethol sy'n cael eu dilyn yng ngolegau ac ysgolion Cymru fod yn fwy perthnasol i angenion cyflogwyr ac economi Cymru?
2. I ba raddau mae economi a chymunedau Cymru yn dioddef o beidio dilyn cwricwlwm cenedlaethol penodol Gymreig?
3. A yw'r fframwaith sefydliadol a rhanbarthol y mwaf addas ac effeithiol i ddarparu¼r gwasanaeth gorau er lles cymunedau ac economi Cymru?
4. Ai anghenfil deuben allan o reolaeth yw ELWA neuír sylfaen i lwyddiant y dyfodol?
5. A oes modd cynyddu atebolrwydd , democratiaeth a thryloywder sefydliadau addysg fel ELWA, y Consortia Cymunedol a Cholegau Addysg Bellach?
6. Beth yn union yw grymoedd y Cynulliad ac ACCAC parthed datblygu cwricwlwm galwedigaethol i Gymru ac a ywír grymoedd hynny yn cael eu defnyddio llawn ac yn ddigonol yn bresennol ac iír dyfodol?
7. A ywír cynulliad a threthdalwyr cymunedau Cymru yn cael gwerth eu harian am y ddarpariaeth addysg.
Er mwyn ennill y ddadl dros Gwricwlwm Galwedigaethol Cenedlaethol i Gymru bydd rhaid profi y byddai hynny o fudd economaidd digamsyniol i Gymru. Yn wir mae'r ddadl economaidd cyn gryfed a'r un ddiwylliannol.
Ar hyn o bryd safonau Prydeinig sy'n cael eu gweithredu ar gyfer cyrsiau NVQ ac mae mwyafrif llethol cyrsiau galwedigaethol byrddau arholi fel fel rhai OCR ac EdExcel (a hyd yn oed CBAC) yn cael sÍl bendith Prydeinig y QCA (sy'n gyfatebol a goruwch?? i ACCAC).
Mewn cyfnod tyngedfennol i Gymru wrth i'r Cynulliad geisio sefydlu gwlad gadarnach ac wrth i arian Amcan 1 gael ei wario ar yr economi ac addysg nid oes sicrwydd bod cynnwys yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn ddigon perthnasol i angenion economaidd, diwylliannol a dinasyddol Cymru a'i chymunedau. Er mwyn sicrhau bod economi Cymru ar ei fwyaf cystadleuol maeín dyngedfenol bod yr addysg aír hyfforddiant ar ei orau o ran safon a pherthnasedd - ac mae hyn yn rhywbeth y byddai disgwyl iír Cynulliad fynnu ei sicrhau..
Gellir gweld y diffygion cwricwlaidd syín bodoli yng Nghymru heddiw drwy edrych ar feysydd penodol. Dau faes galwedigaethol syín ganolog i iechyd economaidd Cymru yw Twristiaeth a Busnes.
Mae Twristiaeth yn faes amlwg lle y gellid dadlau bod angen addysg sydd mewn tiwn a strategae Bwrdd Croeso Cymru, natur Cymru fel cyrchfan dwristiol a natur ddadleuol llawer o ddatblygiadau (heb anwybydduír cyd-destun ehangach wrth gwrs). Yn ddiddorol maeír Bwrdd Croeso wedi gweld yr angen i ddatblygu eu cyrsiau byr eu hunain i Gymru- cyfres Cyfaill Croeso. Mae naws a phwyslais y rhain yn cyferbynnuín fawr iawn gyda naws y meysydd llafur a gynigir mewn Colegau Addysg Bellach ac a ddilynir gan drwch y rhai syín mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant. Fe ddatblygir rhain yn Brydeinig aíu cynnig gan fyrddau arholi fel Edexcel aír RSA ac mae myfyrwyr yn debyg iawn o gael eu profi ar ardaloedd twristiol y tu allan i Gymru. Ym maes cysylltiol arlwyo y maeín dyngedfenol bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth lawn o bwysigrwydd datblygu amrediad safonol ac arloesol o fwydydd lleol a Chymreig wrth ddiffinioír cynnyrch twristiol ac apelio at ymwelwyr.
Yn yr un modd y mae cyrsiau Busnes Prydeinig yn dueddol o ganolbwyntio ar astudio cwmniau mawr ar draul cwmniau bach a chanolig (ac entrepeneuriaeth) fyddai'n fwy perthnasol i Gymru. Eto nid oes sicrwydd bod myfyrwyr busnes Cymru yn cael trwytho yn y drefn economaidd a chefnogi busnes sy'n cael ei weithredu gan y Cynulliad. Mae elfenau dinasyddol fel hyn yn economaidd bwysig hefyd gan reu ymwybydiaeth o economi Gymreig.
Yr elfen arall sy'n ddiffygiol ar draws y bwrdd dan drefn Brydeinig yw'r gofal cwsmer dwyieithog sydd yn gynyddol ei angen yng Nghymru - heb son am y driniaeth eilradd sydd i addysg cyfrwng Cymraeg gan lawer fyrddau arholi. Ar draws sefydliadau adddysgol a llywodraethol Cymru gwelir diffyg gweledigaeth o economi Gymreig ddwyieithog. A oes angen meithrin sgiliau galwedigaethol a gofal cwsmer yn y Gymraeg i bob myfyriwr Ùl 16?
O edrych yn fanwl gellir adnabod cyd-destun pwysig Cymreig iír rhan fwyaf o feysydd galwedigaethol - yn enwedig lle mae gofal neu ofal cwsmer yn rhan bwysig oír gwaith - gan gofioír sectorau fel iechyd syín prysur esblygu dan y Cynulliad.
Yn eironig mae rhai oír unig gyrsiau syín cael eu saernio ar lefel gymunedol ac yn rhydd o hualau byrddau arholi Prydeinig sef cyrsiau heb eu achredu ac syín gyffredin yn arlwy addysg oedolion a chymunedol yr WEA a Cholegau yn cael eu rhagfarnu yn eu herbyn yn ariannol gan ELWA ac felly dan fygythiad!
Dan amgylchiadau ffrwynedig fel hyn fe welir yn glir nad yw myfyrwyr colegau ac ysgolion Cymru yn derbyn addysg alwedigaethol sy'n ddigon perthnasol i sefyllfa ac anghenion Cymru a phendraw rhesymegol hyn yw na fydd perfformiad economaidd Cymru ynghyd a safonau gofal cwsmer yn cyrraedd eu llawn botensial.
Yn ogystal a'r diffyg Cwricwlwm Cymreig mae gwendidau strwythurol cynhenid yn system Addysg Ùl 16 Cymru .
Mae dryswch yn parhau ynghylch perthynas y QCA ac ACCAC, atebolrwydd a grym ELWA a grymoedd y Cynulliad - heb son am rol CBAC. A oes angen perthynas agosach rhwng ELWA a ACCAC a CBAC neu hyd yn oed eu huno i gael trefn symlach - ELCBACCAC!? A oes gwersi iíw dysgu oír Alban?
Yn anffodus y mae datblygiad economaidd sylweddol a daearyddol gytbwys yn mynd i gael ei lyffeitheirio gan ffiniau cosmetig ac anaddas y pedair RhanbarthDatblygu Economaidd (sydd wedi eu mabwysiadu fel rhanbarthau i ELWA) ynghyd ’ diffyg syncroneiddiwch rhyngddynt ’ ffiniau Llywodraeth Leol, Ardaloedd Amcan 1, Dalgylchoedd Addysgol, Cwmniau Gyrfa, Etholaethau Cynulliadol/Seneddol a Pharciau Cenedlaethol, heb son am ffiniau¼r Consortia Addysg . Gofid mawr yw¼r duedd gynyddol o seilio ffiniau sefydliadau llywodraethol newydd (e.e Rhanbarthau Ymgynghorol y Cynulliad, TECS, Cwmniau Gyrfa ñ maes o law) ar rai¼r Fforymau Economaidd a etifeddwyd gan y Weinyddiaeth Geidwadol ddiwethaf ac a gadarnhawyd gan Weinyddiaeth Lafur y Swyddfa Gymreig rhag pechu¼r WDA.
Y mae map ffiniau rhanbarthol Cymru yn debycach i ddarlun haniaethol allan o ffocws nag i drefniadaeth ofodol lywodraethol i wlad fodern. Heb gael yr holl awdurdodau, asiantaethau a sefydliadau i ganolbwyntio eu holl sylw ar ddatblygu un rhanbarth addas a chyffredin iddynt bydd y broses yn ddryslyd a gwastraffus ac ni fydd gobaith sicrhau¼r dyfodol gorau posibl i¼n cymunedau - gan nad ydynt yn gymuned naturiol o gymunedau!
Gwelir y cawlach ffiniol ar ei waethaf yng Ngogledd Orllewin Cymru (rhanbarth economaidd a diwylliannol naturiol os oes un!) lle mae Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Dalgylch Coleg Meirion Dwyfor, Ardal Ddatblygu Dwyryd Llyn ac etholaeth cynulliad/seneddol wedi eu rhannu rhwng Rhanbarth Datblygu Economaidd a TECS y Gogledd a¼r Canolbarth. Nid yw¼r Gogledd Orllewin yn mynd i gael cyfiawnder ychwaith o fod mewn rhanbarth ddatblygu gyda¼r Gogledd Ddwyrain poblog - fwy nag y caiff cymoedd Morgannwg o fod mewn rhanbarth yn cael eu domiwnyddu gan Gaerdydd neu Abertawe.
Y daearyddwr David Harvey drawodd yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd mai¼r gamp yw creu ffiniau a threfniadaeth ofodol fydd yn macsimeiddio rhagolygon yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ni ddylai¼r Cynulliad ofni mynd i¼r afael ’¼r her hon ar unwaith a bod yn ddigon dewr i gynyddu nifer y Fforymau Economaidd ac ad-drefnu llywodraeth leol i greu 7 neu wyth rhanbarth ystyrlon ac unedig fyddai hefyd yn gallu ysgwyddo cyfrifoldebau strategol rhanbarthol ynghyd ’ rhai¼r Consortia Addysg Lleol arfaethiedig.
Er yn croesawu atebolrwydd ddemocrataidd sefydliadau fel ELWA ac ACCAC i¼r Cynulliad mae atebolrwydd a pherchnogaeth leol hefyd yn dyngedfenol i system addysg os am wir wasanaethu cymunedau a¼u heconomiau. Byddai gan Lywodraeth Leol lai o reolaeth nag yn nyddiau Redwood wrth i Addysg Ùl 16 Ysgolion ddod dan fantell Consortia Lleol niwlog eu hatebolrwydd ac ELWA gyda¼i drefn ariannu uniongyrchol.
Dylid chwilio am gyfle hefyd i wedd-newid statws gyfansoddiadol Colegau Addysg Bellach gan adeiladu ar ganllawiau diweddar y Swyddfa Gymreig ar gyfer eu cyrff llywodraethol. Bu rhain yn enghreifftiau o¼r cwangos perffaith, yn hunan enwebu i raddau helaeth, yn cael eu dominyddu gan wrywod hynafol, yn atebol i fawr o neb ac yn gweithredu y tu Ùl i ddrysau caedig. Fe¼u disgrifwyd fel lodges masonig addysgiadol heb y rigalia!¼ Mae¼r corfforaethau ar y cyfan yn dal i gael eu dylanwadu gan ganllawiau polisi a gweithredu o¼r tu hwnt i Glawdd Offa gan The Association of Collages, corf heb unrhyw ddealltwriaeth o Gymru.
Er bod pob adroddiad swyddogol yn dueddol o ddatgan cefnogaeth i Addysg Gymraeg mae gwir natur yr ymroddiad y Cynulliad i¼w ganfod yng nglo m’n y systemau cyllido, yr ewyllys wleidyddol a¼r Cunlluniau Iaith statudol. Y mae perygl i chweched dosbarthiadau ysgolion Cymraeg ddioddef dan y drefn newydd wrth i¼r fformiwla gyllido i ysgolion a cholegau gael ei wastadu ac i apÍl Colegau Addysg Bellach gynyddu.
Er bod i Golegau Addysg Bellach eu rhinweddau, yn anffodus mae eu record o ddarparu dilyniant Cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr yn drychinebus. Hyd yn oed lle ceir ar bapur ddarpariaeth sylweddol, dosbarthiadau cymysgiaith a gynigir a phrin iawn yw ffrydiau Cymraeg. Dyma sefyllfa anfoddhaol ac anfanteisiol i addysg Gymraeg sy¼n golygu bod canran sylweddol o fyfyrwyr gafodd addysg ysgol gyfrwng Cymraeg yn llithro i wneud eu gwaith Ùl 16 yn Saesneg. Mae¼r fformiwla gyllido ar fai gan ei fod yn gwobrwyo dysgu cymysgiaith yn hytrach nag anog ffrydio. Y mae¼n sgandal nad oedd rhaid i¼r Colegau brofi i¼r Cyngor Cyllido bod y miliynau o bunnoedd a hawliwyd yn cael ei wario ar Addysg Gymraeg ar lawr y dosbarth. Fwy na heb, diflannu i goffrau canolog y sefydliadau wnai¼r cyllid sylweddol hwn i leddfu¼r wasgfa ariannol fu ar y sector yn y 90au.
Os am sicrhau Addysg Gyfrwng Cymraeg go iawn mewn Colegau Addysg Bellach mae angen arweiniad ac ymyrraeth frys gan Fwrdd yr Iaith a¼r Cynulliad i sicrhau bod Cynlluniau Iaith cadarn yn cael eu datblygu a bod ELWA yn gweithredu fformiwla gyllido sy¼n sicrhau ffrydio. Ni ddylem fodloni gyda darpariaeth eilradd mewn unrhyw ran o Gymru. Rhaid yw sicrhau bod egwyddorion addysgiadol, hawliau ieithyddol ac ewyllys wleidyddol yn cael y gorau ar fformiwlau ariannu gwallgo a ymddengys eu bod wedi eu cynllunio ar gyfer ardaloedd trefol uniaith.
Bydd angen gweledigaeth eang, fanwl a Chymreig ynghyd ag adnoddau ariannol digonol i¼w gwireddu os yw¼r sector Ùl 16 ac Addysg Bellach am ddiosg ei mantell fel Sindarela¼r byd addysg a chyfranu i¼w llawn photential tuag at adfywiad cymunedol ac economaidd.
Fodd-bynnag, un o¼r meini prawf pwysicaf wrth fesur aeddfedrwydd a pherthnasedd y sector fydd awydd y Cynulliad i waredu Cymru am byth o gysgodion tywyll y 90íau - nid yn unig dargedau hawdd y TECS, y Cwango Cyllido Addysg Bellach a'r ethos o gystadlu rhwng sefydliadau addysg ond hefyd y Corfforaethu a fu ar Golegau Addysg Bellach, y rhanbarthau datblygu economaidd anaddas a¼r ad-drefnu ac ysglyfaethu fu ar lywodraeth leol. Ac yn fwy na dim - y safonau galwedigaethol canolog a Phrydeinig syín llyffetheitheirio datblygiad economi a chymunedau Cymru rhag ffynnu iíw llawn botensial. Onid y cam-lywodraethu anemocrataidd hwn roddodd ëraison díetreí iín Cynulliad Cenedlaethol yn y lle cyntaf?
Dafydd Rhys - Hydref 2003