Canllaw statudol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
C1 A yw'r Canllawiau Craidd (SPSF 1) yn esbonio'r hyn a ddisgwylir gan gyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf mewn ffordd y gellir ei deall gan gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid sydd â diddordeb? Os nad ydynt, pam?
Yn gyffredinol, mae'r canllawiau yn ddigon resymol ac yn cynnig esboniad gweddol syml o ddarpariaethau'r Ddeddf.
Fodd bynnag, mae perygl mawr na fydd digon o enghreifftiau ymarferol i atal cyrff rhag rhoi sylw tic-mewn-blwch i weithredu ar y Ddeddf o ran gwella sefyllfa'r Gymraeg a'r nod llesiant perthnasol.
Un o brif broblemau a wynebir gan y Gymraeg yw'r ffaith nad yw nifer o adrannau o fewn corff yn sylweddoli'r effaith y maent yn eu cael ar yr iaith - drwy eu trefniadau neu ad-drefniadau addysg, ad-drefnu gwasanaethau cymunedol, polisïau caffael neu fuddsoddiadau grant ac economaidd neu bolisïau cynllunio.
Amlygir y gwendid gan adran 1.10 a thabl 1. Er enghraifft, mae geiriad paragraff 64 yn peri'r risg y bydd cyrff yn cyfyngu'n ddiangen ar yr hyn maen nhw'n ei weld fel eu cyfraniad i gryfhau'r Gymraeg. Mae hynny'n berygl y gwelir ar lawr gwlad ar hyn o bryd megis:
* cyrff yn tendro gwasanaethau heb unrhyw amod Gymraeg ar grant neu wasanaeth;
* drwy fuddsoddi yn ehangu addysg nad yw'n addysg cyfrwng Gymraeg gyflawn;
* peidio â sicrhau bod datblygiadau newydd yn cynllunio'r gweithlu i gynyddu sgiliau Cymraeg yr ardal neu i atal allfudo; neu
* drwy danseilio hyfywedd cymunedau lle siaredir y Gymraeg drwy dynnu gwasanaethau oddi ar y cymunedau hynny.
Heb gyngor mwy penodol, mae risg sylweddol na fydd y math hwn o gwestiynau yn newid ymddygiad cyrff. Rydym yn croesawu'r ffaith bod nodyn mwy manwl ynghylch "Gwneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang", ond gresynwn nad oes nodyn tebyg ynghylch y nod am y Gymraeg yn ddogfen. Mae angen manylder o'r fath am y Gymraeg yn ogystal.
C2 A yw'r canllawiau statudol (SPSF 2) yn galluogi cyrff cyhoeddus i gyflawni'r gofynion a ddarperir gan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Os nad ydynt, pam?
Eto, mae diffyg eglurder o ran yr hyn fyddai rhywun yn disgwyl i gyrff ei wneud y y tu hwnt i ddyletswyddau penodol o dan Fesur y Gymraeg. Mae perygl bydd awdurdodau yn gweld bod modd bodloni'r gofynion canllawiau drwy gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn unig.
Yn yr adran am y Gymraeg, dylid cyfeirio at ddyletswyddau Cymraeg eraill, yn ogystal â'r Safonau, er enghraifft, y ddyletswydd i hybu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y ddyletswydd i greu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a'r dyletswyddau i ystyried y Gymraeg yn sgil Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Pryderwn am yr awgrym yn y ddogfen nad yw'r Gymraeg yn mynd i fod yn flaenoriaeth ym mhob ardal gan fod yn nod llesiant cenedlaethol
C4 A yw'r canllawiau statudol (SPSF 3) yn galluogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus i sefydlu a chwblhau eu holl swyddogaethau fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan 4 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Os nad ydynt, pam?
C5 A yw'r canllawiau statudol (SPSF 3) yn cefnogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni newid sylweddol yn y ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd tuag at amcanion a rennir? Os nad ydynt, sut y gallent wneud hynny?
Credwn y dylid sôn am yr angen i gael siaradwyr Cymraeg ar y byrddau yn ogystal â gwahodd mudiadau sy'n ymwneud â phob un o'r nodau llesiant er mwyn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei anwybyddu. Dylai mudiadau fel yr Urdd neu Fentrau Iaith fod yn cael eu gwahodd i gyfrannu'n gyson neu fod yn aelodau, ac mae angen atgoffa byrddau gwasanaethau cyhoeddus am hyn rhag ofn eu bod yn anwybyddu anghenion y Gymraeg.
Dyw paragraffau 66 i 68 ddim yn awgrymu mai rheoli patrymau presennol yn unig mae'r byrddau ac ymdopi â'r anghenion a ddaw yn anochel o'r patrymau hynny. Gallai hynny fod yn beryglus iawn yng nghyd-destun y Gymraeg. Mae rhaid canolbwyntio ar y dyhead i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg.
Dylai paragraff 77 gyfeirio at unrhyw asesiad a fydd yn cynorthwyo cryfhau sefyllfa'r Gymraeg megis Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Ym mharagraffau 114 a 115, dylid cyfeirio at ddyletswyddau Cymraeg eraill, yn ogystal â'r Safonau, er enghraifft, y d dyletswydd i hybu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y ddyletswydd i greu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg neu'r dyletswyddau i ystyried y Gymraeg yn sgil Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
O ran paragraff 127, os yw'r Cynllun Llesiant Lleol i fod i gyflawni'r ddyletswyddau'r Safonau Hybu, bydd rhaid ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ynghylch y cynlluniau hyn. Hefyd, mae Safonau Hybu yn gofyn am gynlluniau 5 mlynedd i hyrwyddo'r Gymraeg, nid yw'n glir a fydd hynny'n cyd-fynd pob tro â gofyniadau adran 39 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
C 9 Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi eu trin yn benodol, defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i fynegi eich barn.
Mae sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau ar drai. Fe ddangosodd y Cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan 70% o'r boblogaeth. Rhwng cyfrifiad 1991 a 2001, fe gwympodd y nifer o’r cymunedau hynny o 92 i 54 a chafwyd cwymp pellach yn ôl Cyfrifiad 2011 i 39. Mae’n glir bod sefyllfa'r iaith fel iaith gymunedol o dan fygythiad mawr iawn felly. Mae angen tyfu’r nifer o gymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol ynddynt. Mae gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r canllawiau cysylltiedig rôl bwysig iawn i’w chwarae wrth geisio gwrth-droi’r patrwm presennol o ostyngiad yn y nifer o gymunedau Cymraeg.
Hoffem dynnu eich sylw at benderfyniadau y byddem yn disgwyl eu gweld yn wahanol. Ymysg y rhai o’r polisïau neu ddatblygiadau y byddem yn disgwyl i gael eu hepgor neu rwystro oherwydd y Ddeddf a'r canllawiau fyddai:
* datblygiadau tai megis y cynlluniau arfaethedig ym Modelwyddan a Chaerfyrddin;
* gorsaf niwclear newydd Wylfa B;
* Ffos y Frân;
* Sell to Wales;
* Cynlluniau i gau ysgolion pentrefol; a
* datblygiadau ‘all-drefol’
Dylai canllawiau ateb y cwestiynau canlynol mewn modd a fyddai’n sicrhau buddiannau’r Gymraeg a’n cymunedau:
* A fydd ei ddarpariaethau atal datblygiadau sydd yn niweidiol iawn i’n cymunedau Cymraeg?
* A fydd y Gymraeg yn gryfach o ran nifer o siaradwyr, canran y siaradwyr, ei defnydd a statws?
* A fydd yn atal datblygiadau tu allan i’n trefi a’n pentrefi, y canoli gwasanaethau, y cau ysgolion gwledig a’r meddwl economaidd byrbwyll sy'n tanseilio'r Gymraeg a'i chymunedau?
* Pa hawliau fydd gan gymunedau i sicrhau bod ffyniant i’r Gymraeg yn ein cymunedau yn ddiogel a hwnnw’n ddyfodol hyfyw?
* A fydd y genhedlaeth nesaf yn byw eu bywydau'n gyfan gwbl drwy'r Gymraeg yn ôl ein penderfyniadau hir dymor o ran ein trefniadau addysg a pholisiau economiad ac eraill?
Yn ogystal, gallai'r canllawiau hyn gyfrannu tuag at newid gwirioneddol wrth ystyried y Gymraeg o fewn y broses gynllunio. Mewn ardaloedd â phoblogaeth uchel o siaradwyr Cymraeg, gallai'r Awdurdod Lleol osod safonau uwch mewn perthynas â'r Gymraeg wrth gynllunio ar gyfer dyfodiad archfarchnad neu fusnes mawr i'r ardal. Yn rhy aml, rhoddir caniatâd cynllunio i archfarchnadoedd heb ystyried eu hymrwymiad i'r Gymraeg o ran darparu arwyddion Cymraeg a gwasanaeth Cymraeg. Mae peryg i'r siop danseilio'r iaith Gymraeg yn yr ardal wrth gyflwyno mwy o Saesneg i'r ardal. Er mwyn osgoi hyn, gellid mynnu fod Tesco neu archfarchnad arall yn creu swyddi sydd â'r Gymraeg yn sgil hanfodol iddynt. Fel hyn, bydd y sawl â sgiliau Cymraeg yn gallu aros yn yr ardal ac yn gallu cynnig gwasanaethau iaith Gymraeg i'r cwsmeriaid lleol. Dyma'r gwahaniaeth y gallai'r Ddeddf a'r canllawiau cysylltiedig ei wneud er mwyn sicrhau fod datblygiadau yn cyfrannu i gynaliadwyedd iaith yn ogystal â'r gymuned yn gyffredinol. Yn ogystal, dylid ystyried y math o swyddi a grëir gan ddatblygiadau megis agor archfarchnad, pentref gwyliau neu fusnes mawr arall. Yn aml, datgenir y bydd datblygiad o'r fath yn creu nifer fawr o swyddi newydd. Fodd bynnag, wrth edrych yn nes at y math o swyddi a grëir, gwelir eu bod yn swyddi rhan amser neu dymhorol, di-grefft sy'n talu cyflogau isel iawn (e.e. datblygiad Tesco yn Aberystwyth). Nid ydynt, mewn gwirionedd, yn creu Cymru lewyrchus a mwy cyfartal. Yn hytrach, maent yn cyfrannu at anghyfartaledd ac yn gwneud dim i ddarparu'r gwaith tra chrefftus sydd ei angen i sicrhau ffyniant economaidd.
Mae angen cynlluniau economaidd amgen, lle yn y gorffennol gwelwyd pwyslais ar nifer llai o ddatblygiadau mawr. Ynghlwm â nifer ohonynt, megis Wylfa B, mae cynlluniau ar gyfer nifer sylweddol o dai, a fyddai felly yn hybu patrymau mudo niweidiol i'r Gymraeg. Mae enghreifftiau eraill, fel ym Modelwyddan, ble mae cynlluniau ar gyfer nifer llawer mwy sylweddol na’r boblogaeth a ragwelir y bydd yn byw yno ac a fyddai’n troi trefi a phentrefi yn ardaloedd i gymudwyr fyw yn ystod yr wythnos, gan chwalu’r syniad o gymuned. Yn ogystal mae peryglon amgylcheddol a defnydd anghynaladwy o adnoddau naturiol gyda hyn.
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Tachwedd 2015