Cliciwch yma i weld y ddogfen hon fel pdf
Cynllun Datblygu Lleol Powys
Ymateb Cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Gorffennaf 20fed 2015
Mae nifer o elfennau sy’n destun pryder mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Lleol newydd gan gynnwys:
-
Sail yr amcangyfrif o 6,071 o dai newydd i Bowys
-
Dosraniad y tai hynny i gymunedau penodol
-
Ystyriaeth o’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol ac effaith datblygiadau arfaethedig
-
Diffyg dysgu o brofiad effaith datblygiadau blaenorol
CRYNODEB O’R HYN A ELWIR AMDANO
-
Credaf nad yw’r dystiolaeth fod angen 6,071 o dai yn gadarn ac felly dylif lleihau’r ffigwr yn sylweddol.
-
Nid yw dosbarthiad y tai yn y cynllun yn addas gan nad yw wedi seilio ar anghenion lleol.
-
Bod y Cyngor yn ail edrych ar yr elfennau yn ymwneud a’r Gymraeg a chynaladwyedd cymunedau sensitif ieithyddol yn sgil Bil Cynllunio 2015 lle'r cydnabyddir y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol yn y drefn gynllunio.
-
Yn sgil y Bil Cynllunio, gelwir ar y Cyngor i gomisiynu gwaith ymchwil i weld effaith datblygiadau tai newydd ar y cymunedau traddodiadol Cymraeg, y rhai y cydnabyddir iddynt fod yn sensitif yn ieithyddol a dros 25% o siaradwyr Cymraeg, yn ystod y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf.
-
O dderbyn sensitifrwydd ieithyddol y cymunedau hynny, bod y cynllun yn cyfyngu ar ddatblygiadau tai newydd yn yr ardaloedd hynny am ddegawd hyd fydd effaith newidiadau'r cyfnod blaenorol wedi’u setlo.
-
O ystyried bodolaeth y Ddeddf Gynllunio 2015 newydd, sydd yn cydnabod y Gymraeg fel ystyriaeth cynllunio gyflawn a bod y gwaith yma gan Bowys heb ystyried hynny, bod y Cyngor hefyd yn rhoi mewn lle trefn o gomisiynu cwmni annibynnol allanol i wneud asesiadau iaith ar unrhyw ddatblygiadau oddi fewn yr ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol.
-
SAIL YR AMCANGYFRIF
Mae sawl agwedd o’r amcangyfrif yn y cynllun yn peri pryder. Yn y lle cyntaf mae’r ffigwr o 5,519 o dai a nodir sydd angen ar ddechrau’r ddogfen yn ymddangos yn ffigwr wedi’u dynnu o’r awyr. Oherwydd yn ddiweddarach yn y ddogfen nodir bod angen safleoedd ar gyfer 6,071 o dai er mwyn sicrhau'r 5,519. Golyga hyn eich bod yn clustnodi 552 o safleoedd yn fwy na’r hyn rydych yn cydnabod sydd eu hangen go iawn.
Yn ychwanegol at hynny, rydych yn datgan i 194 o dai cael eu hadeiladu’n flynyddol rhwng 2009 a 2013. Petai’r ffigwr hynny felly’n parhau am gyfnod y Cynllun o 2011 i 2026 dim ond 2,910 o safleoedd fyddai eu hangen.
Hyd yn oed petai rywun yn cymryd cyfartaledd yr adeiladu yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf, sef 274 y flwyddyn, byddai’n golygu cyfanswm i Bowys o 4,110 o safleoedd. Golyga hynny bod y targed bron i 33% yn fwy nac hyd yn oed yr hyn oedd yn cael ei ddatblygu yn ystod penllanw adeiladu cyn y dirwasgiad.
Yn ychwanegol at hynny, mae nifer o ffactorau eraill sydd angen eu hystyried wrth gynllunio i’r dyfodol.
Fel y dengys ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau a gyhoeddwyd ym Mehefin 2014, ymddengys bod poblogaeth Powys yn y cyfnod o ganol 2012 i 2013 wedi gostwng o 133,000 yn 2012 i 132,700 yn 2013, sef gostyngiad o 300 neu 0.2%.
Hefyd cyhoeddwyd pecyn o ystadegau defnyddiol gan Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ar yr 20fed o Ragfyr 2013. Dengys y rheini fod patrwm mudo ar gyfer y sir rhwng 2001 a 2011. Dangosir bod 5,810 wedi mewnfudo tra bo allfudiad o 4,990 yn gadael ffigwr net o 820 o fewnfudwyr. O ddefnyddio'r ffigwr net yma fel cynsail ar gyfer oes y Cynllun Datblygu, sef 15 mlynedd rhwng 2011 a 2026, yna byddai ffigwr net o 1,230 o fewnfudwyr.
Ffactor arall allweddol ydy’r ffaith bod cydnabyddiaeth yn yr un ddogfen y rhagwelir gostyngiad yn y boblogaeth rhwng 0 a 15 yn y sir hyd at 2026.
“For a handful of authorities, (Powys ac eraill) the population aged 0 to 15 is expected to decrease based on both the higher and lower population variants and the principal projection”
Rhagwelir gostyngiad o 17.1% yn 2011 i 15.5% yn 2026, efo’r niferoedd posib yn gostwng o 22,800 i 21,100.
Yr elfen arall dylanwadol ym mhoblogaeth Powys ydy’r canran o rhai dros 65 oed a rhagwelir hynny o bosib yn cynyddu o 22.9% yn 2011 i 30% yn 2026. Y pwynt allweddol yma ydy bydd hynny yn cynyddu'r galw am gartrefi henoed, fflatiau gwarchodol a gwasanaethau cyffelyb yn hytrach na stadau o dai newydd.
Yn ychwanegol at hyn, cyhoeddwyd ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2014 gan gydnabod bod y rhagolygon blaenorol o ran twf poblogaeth yn anghywir. Yn lle gweld cynnydd o 284,000 o gartrefi yng Nghymru hyd at 2033 gostyngwyd hynny i 175,000, sef tua 7,954 y flwyddyn neu 119,318 hyd at 2026 sef oes y cynlluniau datblygu.
O dynnu ffigyrau twf Caerdydd ac Abertawe allan, cedwir tua 59,318 ar gyfer gweddill Cymru sy’n golygu mae 3,000 o dai ar y mwyaf y dylid ei adeiladu ym Mhowys hyd at 2026.
I grynhoi felly o ran yr elfen yma:
-
Mae’r rhagolwg o dai hyd at 2026 yn fwy yn flynyddol na’r hyn a ddigwyddodd dros yr 8 mlynedd diwethaf sy’n golygu dylai’r rhagolwg fod o leiaf 2,000 yn llai
-
Yn ychwanegol at hynny, dengys ffigyrau cyhoeddus bod y boblogaeth wedi gostwng rhwng 2012 a 2013
-
Dengys patrwm mudo'r ddegawd ddiwethaf mai ffigwr net y 15 mlynedd nesaf fyddai 1,230. Go brin fyddai'r rhain i gyd yn mynd i gartrefi newydd, ac felly unwaith eto mae’n anodd cyfiawnhau'r bwriad o 6,071 o dai newydd
-
Ceir cytundeb bydd y niferoedd hyd at 15 oed yn gostwng bydd wedyn yn dylanwadu ar y niferoedd o gartrefi i rai ifanc fydd eu hangen
-
Rhagwelir cynnydd yn y rhai dros 65 oed ac eto nid ystadau o dai newydd fydd angen arnynt ond yn hytrach gofal mewn cartrefi henoed, gofal gwarchodol ac ati.
-
Dengys ffigyrau diwygiedig Llywodraeth Cymru bod eu rhagolygon gwreiddiol ymhell ohoni ac ar sail hynny mai 3,000 ar y mwyaf o dai y dylid eu hadeiladu ym Mhowys ac nid 5,000.
-
DOSRANIAD Y TAI
Agwedd arall sy’n creu pryder yw’r dosraniad tai. Unwaith eto mae’r agwedd yma yn anwybyddu'r hyn a ddatganwyd mewn rhan arall o’r ddogfen, sef pwysigrwydd y Gymraeg mewn rhannau o’r Sir.
Rhoddir Llanbrynmair fel pentref mawr, er bod Glantwymyn, Llangadfan a Llanerfyl yn cael eu nodi fel pentrefi bach. Mewn gwirionedd mae llawn cymaint o wasanaethau i’w cael yn y naill gymuned a’r llall ac mae’r dull arwynebol hyn o weithredu yn anwybyddu realiti ar lawr gwlad, sef bod pentrefi fel Glantwymyn neu Langadfan yn gwasanaethu ardal ddaearyddol llawer ehangach a bod rhwydweithiau cymdeithasol mewn ardal o’r fath yn bwysig.
Yn yr un modd prin y medrir honni fod Pontrobert yn bentref mawr. Dylid felly trosglwyddo Llanbrynmair a Phontrobert o’r categori pentrefi mawr i bentrefi bach.
Yn yr un modd dylid dileu'r ffin gaeth o amgylch Llanbrynmair er mwyn newid y pwyslais oddi wrth ddatblygu ystâd o dai diangen i un lle y medrid adlewyrchu gwir anghenion lleol ac un lle byddai modd adeiladu tai unigol fel bo angen yn y dyfodol. Mae’r patrwm o osod ffin gaeth o amgylch pentref gwledig yn newid natur y gymuned o fod yn un gwledig i fod yn un drefol ei naws.
Pryderon eraill a geir mewn perthynas â’r bwriad o ddatblygu safle Bryncoch, Llanbrynmair yw:
-
Ni wnaed unrhyw waith ymchwil na chasglu unrhyw ddata o dystiolaeth o anghenion yr ardal
-
Ni chymerwyd i ystyriaeth y ffaith bod hawl i 5 annedd wedi bod yno ers degawd a neb eisiau nhw
-
Ni ystyriwyd canlyniadau Cyfrifiad 2011, y gostyngiad o 5% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg a’r newid cymdeithasol.
-
Mae hyd yn oed un o swyddogion Cyngor Powys wedi datgan yn bersonol i mi fod y ffigwr o 17 tŷ arall yma yn anghywir ac mewn gwirionedd ei fod o leiaf 14 yn fwy na’r hyn y dylai fod
-
Mae amheuaeth mai’r hyn sydd wedi digwydd felly yw fel y nodir yng nghymal 3.4.24 y Cynllun Datblygu sef;
“Lle nad yw anheddiad wedi gallu ymdopi â’i lefel datblygu pro rata, mae’r CDLl wedi ceisio ailneilltuo tir ar gyfer y diffyg mewn mannau eraill i sicrhau bod cyfanswm gofynion cyfnod y cynllun yn cael ei gyflawni. Yn yr achos cyntaf, mae’r CDLl wedi ceisio neilltuo tir ar gyfer y diffyg mewn aneddiadau gerllaw sydd yn y categori Trefi neu Bentrefi Mawr”
-
Mae gweithredu fel hyn yn mynd yn hollol groes i’r egwyddorion honedig o fewn y cynllun sef “Cefnogi a gwarchod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ym Mhowys” (amcan 15).
-
Y GYMRAEG
Yn y lle cyntaf dylid croesawu’r ffaith fod y Cyngor Sir yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg ar ddechrau’r ddogfen. Er enghraifft, nodir:
“Mae lefelau’r iaith Gymraeg yn amrywio ledled y sir, gyda mwy o bobl yn ei defnyddio yn y gorllewin a’r de-orllewin, er bod yna bryderon bod ei defnyddio ar drai yn y cadarnleoedd y Gymraeg traddodiadol hyn. Mae angen i’r CDLl ystyried sut gall gyfrannu at hybu defnyddio’r iaith a gwarchod diwylliant Cymreig”
Yn yr un modd nodir fel nod ac amcan dan y pennawd ‘Cefnogi Cymunedau Iach’;
“Amcan 15 y CDLl – Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig: Cefnogi a gwarchod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ym Mhowys ac, yn benodol, cadarnleoedd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin a’r de-orllewin.”
Hefyd croesawir y ffaith bod cydnabyddiaeth o fodolaeth TAN 20 a bodolaeth y cymunedau lle ceir mwy na 25% o siaradwyr Cymraeg.
“These documents require the Council to consider whether it has any communities where the use of the Welsh language is part of the social fabric and where it is so, it is appropriate that this be taken into account in land use planning”
Serch hynny, tra bo’r egwyddorion hyn i’w croesawu gwelir bwlch rhwng hyn a’r gweithredu ymarferol a’r hyn a fwriedir yn y Cynllun Datblygu.
Mae Nodyn Cyngor Technegol TAN20 Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd fis Mehefin 2014 yn datgan yn glir fel a ganlyn:
1.8 “Wrth lunio mae modd asesu effeithiau cronnol a chyfunol llawer o ddatblygiadau ar y Gymraeg. Mae hyn yn gyfle i ystyried effeithiau ar gymunedau lleol ac ardaloedd ehangach y cynllun gyda’i gilydd.”
2.2 “Er mwyn sicrhau y caiff materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hystyried, mae’r CDLl yn destun i arfarniad o gynaliadwyedd. Mae’r iaith Gymraeg yn ffitio ym mhroses arfarniad o gynaliadwyedd am ei fod yn nodwedd ganolog o gymdeithas a chymunedau yng Nghymru a ganddi werth hanesyddol a diwylliannol sylweddol. Dylid felly asesu effeithiau iaith strategaeth, polisïau a dyraniadau safle'r CDLl.”
Casglu data perthnasol
2.8 “Disgwylir i Awdurdodau Cynllunio Lleol gasglu amrywiaeth o dystiolaeth i ategu strategaeth, polisïau a dyraniadau safle’r CDLl, Gall ffynonellau defnyddiol o ddata ar y Gymraeg gynnwys y canlynol:
-
Adrannau eraill o fewn yr awdurdod lleol
-
Swyddfa Ystadegau Gwladol
-
Comisiynydd y Gymraeg
-
Stats Cymru – Gwasanaeth ystadegol Llywodraeth Cymru
-
Prif dystiolaeth: arolygon o breswylwyr, grwpiau ffocws ac ati
2.9 Gall y dystiolaeth ganlynol fod yn ddangosyddion perthnasol o bwysigrwydd y Gymraeg i gymunedau yn ardal y Cynllun:
Data’r Cyfrifiad:
-
Nifer y siaradwyr Cymraeg/canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg ar lefel ardal cynllun, cymuned, adran etholiadol, ward. A oes crynodiadau gofodol lle y ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg? Ble mae’r newidiadau mwyaf yn digwydd?
-
Sut mae’r data mwyaf diweddar yn cymharu â 2001, 1991 ac ati. A yw nifer y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu neu’n lleihau neu a ydynt yn sefydlog?
-
Ydy patrymau mudo yn effeithio nodweddion iaith yr ardal?
-
Ydy proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn destun pryder?
Strategaethau a mentrau lleol:
-
Beth yw nodau ac amcanion yr awdurdod yn ei strategaeth iaith?
-
Ydy strategaethau’r awdurdod yn gyson a’i Gynllun Gweithredu ar yr Iaith Gymraeg?
-
Beth yw blaenoriaethau a phrif weithredoedd y Fenter Iaith leol?
Ffactorau economaidd
-
Amcangyfrif o faint o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gweithle?
-
Beth yw’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle? A yw’n cael ei defnyddio bob amser, yn aml, yn achlysurol ac ati?
-
Beth yw’r sefyllfa bresennol a disgwyliedig o ran cyflogaeth? A yw diweithdra yn broblem benodol, yn arbennig ymhlith pobl ifanc?
-
Oes casgliad o siaradwyr Cymraeg mewn sectorau cyflogaeth benodol?
Cyfleusterau cymunedol:
-
Pa weithgareddau/cymdeithasau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg?
-
A oes cyfryngau lleol cyfrwng Cymraeg ee gorsafoedd radio, papurau newydd?
-
Ble mae’r cyfleusterau cymunedol sy’n cynnig cyfleoedd i bobl sgwrsio yn Gymraeg? A ydynt mewn lleoliadau hygyrch, cynaliadwy? Beth yw darpariaeth gynlluniedig y fath gyfleusterau yn y dyfodol?
2.10 “Ar ôl casglu data bydd angen ei ddadansoddi ac ystyried i ba raddau, a sut, y mae defnydd tir yn effeithio ar y Gymraeg.”
2.11 “Y dasg allweddol ar yr adeg hon yw i’r awdurdod nodi’r hyn y mae am i’r CDLl ei gyflawni ar gyfer yr iaith Gymraeg.”
2.12 “Bydd rhai neu bob un o’r ffactorau canlynol yn debygol o ddylanwadu ar ddull gweithredu’r ACLl:
-
Ydy’r Gymraeg yn brif iaith, neu’n iaith bwysig i grwpiau penodol o fewn cymunedau yn ardal y cynllun?
-
Ydy’r Gymraeg yn tyfu neu’n dirywio ar y cyfan?
-
Patrymau mudo a phroffil oedran y rhai sy’n symud allan o’r ardal ac i mewn iddi. Faint o bwysau y mae hyn yn eu rhoi ar wasanaethau a seilwaith?
2.13 “Gall CDLl hefyd ystyried pa bolisïau a darpariaethau ar gyfer y Gymraeg a gynhwyswyd mewn cynlluniau datblygu blaenorol yn yr ardal:
-
A gyflawnwyd yr amcanion?
-
A ddefnyddiwyd polisïau ac a wnaed defnydd priodol ohonynt?
-
Pa wersi a ddysgwyd o gynlluniau blaenorol a all lywio dull gweithredu’r CDLl?
Opsiynau’r Cynllun
2.16 “Mewn ardaloedd a chynllun lle mae’r Gymraeg yn agwedd bwysig ar gymunedau lleol dylai’r awdurdod cynllunio ystyried sut bydd pob opsiwn yn effeithio ar y Gymraeg wrth benderfynu pa opsiwn y dylid ei ddewis.”
Dyraniad safle:
2.22 “Bydd maint a daliadaeth anheddau yn ffactorau sy’n cael effaith ar bennu os yw datblygiad yn ddylanwad cadarnhaol neu negyddol ar yr iaith”
Rheoli Datblygu
-
-
“Drwy gasglu tystiolaeth fanwl gywir y gellir ei mesur ac ymgysylltu ag ymgynghorwn perthnasol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, ar gam llunio’r cynllun mae disgwyl; bod awdurdodau cynllunio lleol yn nodi eu safbwynt ar gynllunio a’r iaith Gymraeg drwy strategaeth a pholisïau’r CDLl a thrwy ddefnyddio Canllawiau Cynllunio Atodol.”
-
Mae hyn yn amlygu nifer o ddiffygion yn y Cynllun Datblygu arfaethedig.
-
Nid yw’r Cynllun yn edrych ar y darlun llawn o ran y Gymraeg ac effaith cronnus nifer o ddatblygiadau dros amser ar y cymunedau Cymraeg fel y adnabyddir hwy yn y Cynllun
-
Nid yw’r asesiad cynaladwyedd a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn cymryd digon o ystyriaeth o’r Gymraeg nac yn dangos dealltwriaeth iawn o natur fregus y cymunedau hynny. Nid yw’n ystyried yn llawn effaith datblygiadau tai mewn cymunedau Cymraeg megis Llanbrynmair, Pontrobert, Pen-y-bont-fawr a Llanrhaeadr ym Mochnant, i gyd yn gymunedau lle y gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y ganran o siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011.
-
Ni ymddengys unrhyw broses ymchwil o gasglu data ar y Gymraeg oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg, Mentrau Iaith Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed;
-
Ni cheir unrhyw ddadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2011 o ran y Gymraeg. Fel y nodir: 2.10 “Ar ôl casglu data bydd angen ei ddadansoddi ac ystyried i ba raddau, a sut, y mae defnydd tir yn effeithio ar y Gymraeg.”
-
Noda TAN 20 yn glir: 2.16 “Mewn ardaloedd a chynllun lle mae’r Gymraeg yn agwedd bwysig ar gymunedau lleol dylai’r awdurdod cynllunio ystyried sut bydd pob opsiwn yn effeithio ar y Gymraeg wrth benderfynu pa opsiwn y dylid ei ddewis.”
Er hyn, maent yn awgrymu codi stad o 22 o dai yn safle Bryncoch, Llanbrynmair ynghyd a stadau o dai ym Mhenybontfawr, Llanrhaeadr ym Mochnant a Phontrobert i gyd mewn cymunedau lle gwelwyd cwymp sylweddol o ran y Gymraeg yng nghyfrifiad 2011.
-
Eto noda Tan 20: 2.22 “Bydd maint a daliadaeth anheddau yn ffactorau sy’n cael effaith ar bennu os yw datblygiad yn ddylanwad cadarnhaol neu negyddol ar yr iaith” ac eto bwriedir rhoi datblygiad tai yn Llanbrynmair heb:
-
Wneud unrhyw waith ymchwil na chasglu data o dystiolaeth o anghenion yr ardal
-
Heb ystyried y ffaith fod Cyfrifiad 2011 yn dangos gostyngiad o 5% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg
CH. DYSGU O BROFIAD
Ardal Cyngor Cymuned |
1991 % (3+) |
2001 % (3+) |
2011 (3+) |
|||
Llanerfyl |
73% |
57% |
56% |
|||
Banwy |
60% |
60% |
56% |
|||
Glantwymyn |
69% |
58% |
53% |
|||
Llanfihangel |
70% |
64% |
53% |
|||
Machynlleth |
60% |
54% |
52% |
|||
Pen-y-bont-fawr |
69% |
55% |
50% |
|||
Llanbrynmair |
69% |
53% |
48% |
|||
Llanrhaeadr-ym-Mochnant |
64% |
53% |
43% |
|||
Llanwddyn |
62% |
60% |
38% |
|||
Llangynog |
64% |
50% |
37% |
|||
Carno |
57% |
45% |
36% |
|||
Llanfair Caereinion |
42% |
38% |
36% |
Un elfen sy’n drist iawn yn hyn oll, ac sy’n grisial clir, yw’r diffyg dysgu gwersi o’r hyn a wnaed dan gynlluniau blaenorol a’r effaith negyddol amlwg mae nifer o benderfyniadau blynyddoedd a fu wedi’u cael ar y cymunedau Cymraeg eu hiaith ym Mhowys.
Mae’r tabl uchod yn dangos yn glir y newid ym mhatrwm ieithyddol nifer o gymunedau Powys dros yr ugain mlynedd diwethaf ac yn ddi-os mae polisïau cynllunio’r gorffennol wedi cyfrannu at hyn. Boed o ran diffyg dealltwriaeth neu ddiffyg gweledigaeth mae’n allweddol nad yw’r cynllun newydd yma yn ail adrodd camgymeriadau.
Er enghraifft cafwyd datblygiad tai cymdeithasol yn Nolfach ger Llanbrynmair a dim ond un person lleol sy’n byw yno. Mae hyn yn amlygu'r diffyg gwaith cartref o ran tystiolaeth o anghenion lleol. Yn yr un modd gwelwyd stadau eraill yn Llanbrynmair dros y ddegawd ddiwethaf ac mae’r mwyafrif llethol o’r preswylwyr yn methu a siarad Cymraeg. Mae hyn yn cael ei amlygu yn ffigyrau'r Cyfrifiad diwethaf lle gwelwyd gostyngiad o 5% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg.
Yn yr un modd gwelwyd y Cyngor yn caniatáu i 15 o dai unllawr gael eu hadeiladu yn Y Foel, Dyffryn Banw. Eto dim ond un person lleol sy’n byw ynddynt a’r gweddill ddim yn medru’r Gymraeg. Cymaint mae hyn yn ei wneud yw creu ‘geto’ Seisnig ar gyrion cymuned arferai fod yn Gymraeg ei hiaith.
Hefyd adeiladwyd 16 o dai yn Llangadfan, yn groes i ddymuniad llawer, ac eto dim ond 4 person lleol sydd yno. Effaith uniongyrchol hyn yw newid patrwm ieithyddol y gymuned a thanseilio'r ychydig gymunedau ym Mhowys lle arferai’r Gymraeg fod yn iaith pob dydd.
Fel y dywed Emyr Lewis, mewn papur diweddar ar ‘Cynllunio a’r Gymraeg’:
“Gymaint yn fwy felly yw’r anawsterau i’r Gymraeg mewn llefydd lle mae hi’n iaith fwyafrifol o drwch blewyn, neu’n iaith lleiafrif swmpus. Yma mae’n parhau i gael ei defnyddio fel iaith gymunedol, ond nid iaith y cyfarchiad cyntaf. Mae datblygiadau tai mawrion yn prysuro ei thranc fel iaith gymunedol, ac mae’r ymdrechion i gymhathu hyd yn oed yn anos”.
A dyna’n union yw sefyllfa cymunedau fel Llanbrynmair, Llangadfan, Pen-y-bont-fawr ac ati. Does dim ond rhaid edrych ar Gyfrifiad 2011 a’r canrannau o siaradwyr Cymraeg, a medrir priodoli'n glir datblygiad stadau tai newydd yn y cymunedau hyn â’r gostyngiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg.
Onid yw’n bryd agor llygaid a dysgu gwersi o hyn?