Deddf Iaith: Amlinelliad Syml!
[Cafodd y Ddogfen yma ei baratoi ar gyfer ei ddosbarthu yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2003, ceir trafodaeth ddyfnach yn nogfen bolisi Cymdeithas yr Iaith: Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd ]
pobl_w398.jpg
CANRIF NEWYDD - DEDDF IAITH NEWYDD
Beth yw galwad Cymdeithas yr Iaith?
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd i Gymru. Rydym yn galw am ddeddf a fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd.
Ar hyn o bryd, os ydyn ni eisiau rhywbeth yn Gymraeg - bil ffôn er engrhaifft, neu ffurflen - mae'n rhaid gofyn amdano ac yn aml does dim ar gael! Serch hynny, fe ddylai'r pethau hyn fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'i ffordd i ofyn am wasaneth yn eu hiaith eu hunain, neu fodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasaneth Cymraeg ar gael. O ganlyniad, mae angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.
Wrth gwrs, nid dyma unig ymgyrch Cymdeithas yr Iaith - ceir rhai eraill ym maes addysg a thai hefyd - ond does dim amheuaeth fod hon yn ymgyrch bwysig.
Ond mae Deddf Iaith gyda ni yn barod on'd does?
Oes, mae un gyda ni'n barod, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, ond dyw hi ddim yn sicrhau bod y Gymraeg yn gyfartal a'r Saesneg ym mhob agwedd ar fywyd. Yn wir, mae'r ddeddf hon yn crisialu statws israddol y Gymraeg drwy wneud ei defnydd yn amodol ar fod yn 'briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol'.
Nodwch rai gwendidau penodol?
Un peth amlwg yw'r ffaith nad yw'r hen Ddeddf Iaith yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru. Mae rhai yn dadlau fod y Gymraeg eisioes yn mwynhau statws swyddogol, ond y gwir amdani yw - yn absenoldeb unrhyw ddatganiad clir - nid oes gan hyn unrhyw ystyr realistig.
A fyddai unrhyw fantais ymarferol o ddatgan y Gymraeg yn 'iaith swyddogol'?
Byddai! Yn un peth byddai'n haws cael arian Ewropeaidd i'r iaith os yw hi'n glir yn gyfreithiol ei bod yn iaith swyddogol. Ond ar ben hynny, byddai'n gwneud hi'n glir i bawb fod Cymru yn wlad ddwyieithog ac felly bod galw am wasanethau Cymraeg yn ogystal a rhai Saesneg.
Beth arall sydd o'i le?
Gwendid arall cwbwl sylfaenol yw'r ffaith fod grymoedd Ddeddf Iaith 1993 yn gyfyngedig i'r sector cyhoeddus ac nad yw'n cyffwrdd ’'r sector preifat o gwbwl. Cred Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn golygu fod yr hen Ddeddf Iaith bellach yn gwbwl aneffeithiol o ran ateb anghenion y Gymraeg yn y ganrif newydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, preifateiddiwyd llawer o'r hen wasanaethau cyhoeddus (dwr, nwy, trydan, a'r rheilffyrdd), gan olygu nad oes gan gwsmeriaid bellach yr hawl i fynnu gwasanaeth Cymraeg ganddynt. Ar yr un pryd, mae'r holl ddatblygiadau modern a dylanwadol a fu ers 1993 yn eiddo i'r sector breifat ac felly yn medru anwybyddu'r Gymraeg yn llwyr.
Felly rydych ch eisiau gorfodi'r sector preifat i ddefnyddio'r Gymraeg?
Ydyn. Beth sy'n bod ar hynny?
Ond mae'r Llywodraeth a'r Bwrdd Iaith yn dweud nad oes angen gwneud hynny. Oni fyddai'n well perswadio'r sector preifat?
Wrth gwrs, mewn byd delfrydol, byddai dim angen cael deddfau a rheolau. Serch hynny, y gwir amdani yw fod y strategaeth o berswadio ac o ddibynnu ar ewyllys da y sector breifat i ddefnyddio'r Gymraeg ddim yn gweithio.
Mae'r sector preifat wedi bod yn rhydd i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg o'i gwirfodd ers blynyddoedd, ond does dim byd mawr wedi digwydd. Ystyriwch ymatebion rhai cwmniau preifat i geisiadau Cymdeithas yr Iaith:
vodafone.JPG
Vodafone:
ìOur language policy will not change untill the legislative environment changes.î (2000)
orange.JPG
Orange:
ìOrange does not consider itself to be a public body as outlined in the 1993 Welsh Language Act. Therefore it is under no obligation to offer services in Welsh.î (2000)
Mae eich dadl yn un cryf!
Ydy! Mae'n rhaid i ni gofio bod cymdeithas yn deddfu er lles pethau sy'n bwysig iddi. Mae deddfau eisioes yn bodoli er mwyn amddiffyn yr amgylchedd, hawliau pobl anabl ac isafswm cyflog, am nad yw'r sector preifat yn delio ’'r pethau hyn yn wirfoddol.
Wrth gwrs, mae llawer o ewyllys da i'w gael tuag at y Gymraeg erbyn hyn. Ond, y gwir amdani yw fod ewyllys da ar ben ei hun, ddim yn ddigon i sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg.
Oes rhywbeth arall yr hoffech chi weld mewn Deddf Iaith Newydd?
Oes, digonedd! Yn fyr:
yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
yr hawl i addysg ar ôl 16 yn Gymraeg a thrwy'r Gymraeg
yr hawl i gael rheithgor Cymraeg
yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y carchar
arwyddion ffordd yn y Gymraeg drwy Gymru (gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg os defnyddir iaith arall)
Beth am dechnoleg newydd?
Wrth gwrs - mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod yn rhaid creu strategaeth hir-dymor ar gyfer dyfodol y Gymraeg ym maes technoleg. Rydyn ni'n galw ar y cynulliad Cenedlaethol i sefydlu tasglu a fydd yn gweithredu i sicrhau lle i'r Gymraeg mewn datblygiadau modern. Mae hwn yn faes hollbwysig, gan fod angen cysylltu'r Gymraeg gyda datblygiadau modern er mwyn i'r iaith ymddangos yn gyffrous a pherthnasol.
Gellir darllen mwy am syniadau Cymdeithas yr Iaith yn y ddogfen bolisi 'Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd'
Mae'r byd yn symud yn ei flaen, ond mae'r Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl!
DEDDF IAITH NEWYDD